Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 29/10/2020 i'w hateb ar 03/11/2020
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o ymateb Llywodraeth Cymru i'r pandemig COVID-19?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi gweithlu GIG Cymru?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ddelio â chynnydd posibl yn nifer yr achosion lle ceir canlyniadau positif mewn profion COVID-19 yng Nghaerffili yn y dyfodol?
Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i weithwyr y GIG yn ystod y pandemig COVID-19 hwn?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith cysylltiadau rhynglywodraethol ar bolisi cyhoeddus yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Faint o arian y mae Llywodraeth Cymru wedi'i ddarparu ar gyfer prydau ysgol am ddim y tu allan i'r tymor ar draws Canolbarth a Gorllewin Cymru?
Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi sector treftadaeth Cymru cyn etholiad seneddol nesaf Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i atal COVID-19 rhag lledaenu mewn ysbytai yng Nghymru?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cynnal gyda sefydliadau perthnasol i sicrhau bod etholwyr Cymru yn wybodus am faterion gwleidyddol cyn etholiad y Senedd yn 2021?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cyngor gwyddonol ynghylch y cyfyngiadau ar werthu nwyddau nad ydynt yn hanfodol mewn archfarchnadoedd a siopau cyfleustra yng Nghymru?
Pa gymorth ariannol y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i weithwyr gofal cymdeithasol y genedl os bydd yn ofynnol iddynt hunanynysu ar unrhyw adeg yn ystod pandemig y coronafeirws?
Pa gefnogaeth mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i sefydliadau addysg uwch yn wyneb yr heriau presennol?