Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 28/09/2023 i'w hateb ar 03/10/2023
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella diogelwch ar ffyrdd gwledig?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi cleifion canser?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol cyllid rheilffyrdd yng Nghymru?
Pa gynlluniau sydd gan y Prif Weinidog i gyflwyno codi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd i fodurwyr?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella cadernid cymunedol?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn gwerthuso effaith economaidd-gymdeithasol ei pholisïau yng Ngogledd Cymru?
Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn diogelu mesurau gofal iechyd ataliol yn y gyllideb sydd i ddod?
A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar gynlluniau economaidd rhanbarthol y Llywodraeth ar gyfer Dwyfor Meirionydd?
A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar gamau gweithredu lywodraeth Cymru i wella gwasanaethau rheilffyrdd yn Islwyn?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar ddatblygu parciau gwyddoniaeth ac arloesi?
Pryd y bydd StatsCymru yn cyhoeddi amcanestyniadau mwy diweddar o aelwydydd a phoblogaeth, fel y gellir cysoni cynllun datblygu lleol Cyngor Caerdydd â rhagolygon Llywodraeth Cymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gwella cyflogau ac amodau i weithwyr y sector cyhoeddus?