Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 26/06/2024 i'w hateb ar 03/07/2024
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am ddarpariaeth gofal iechyd cymunedol yn Sir Ddinbych?
Beth yw polisi Llywodraeth Cymru ar ddarparu bwydydd sydd wedi'u prosesu'n helaeth i gleifion yn ysbytai'r GIG?
Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella canlyniadau i bobl yng Nghwm Cynon a gaiff eu heffeithio gan ganser yr ysgyfaint?
A wnaiff Llywodraeth Cymru roi diweddariad ar gynllun bwydo ar y fron Cymru gyfan?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarpariaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru?
A wnaiff yr Ysgrifenydd Cabinet ddatganiad ar gysondeb ariannu gofal o fewn y gyfundrefn cartrefi gofal yng Ngogledd Cymru?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am wasanaethau brys yn Ysbyty'r Faenor?
Pa asesiad y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud o ddigonolrwydd y ddarpariaeth gwasanaeth yn ysbytai Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan?
Beth y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn ei wneud i wella amseroedd ymateb ar gyfer galwadau coch?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gwella mynediad at wasanaethau deintyddol yn Alun a Glannau Dyfrdwy?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi prosiectau cymunedol sy'n canolbwyntio ar wella iechyd meddwl a llesiant pobl ifanc?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar gyllid Gofal Iechyd Parhaus?
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hybu twf gwyddorau bywyd yng Nghymru?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am ddyfodol Maes Awyr Caerdydd?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar drafodaethau gyda datblygwyr ffermydd gwynt ar raddfa fawr ym Mrycheiniog a Maesyfed?
Pa drafodaethau y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi cael gyda chyflogwyr ac undebau llafur i hyrwyddo gwaith teg ac annog gwell amodau gwaith i weithwyr yng Ngogledd Cymru?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi cyflogeion i fod yn berchnogion ar fusnesau?
Pa asesiad y mae yr Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o effaith rhyddhad ardrethi busnes ar yr economi?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau nad yw prosiectau ynni adnewyddadwy yn cael effaith negyddol ar gymunedau cyfagos?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi economi Gogledd Cymru?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i greu swyddi gwyrdd mewn etholaethau ôl-ddiwydiannol fel Rhondda?
Pa drafodaethau y mae yr Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gyda phartneriaid ynghylch sut y gallai dadfuddsoddi pensiwn y sector cyhoeddus fod o fudd i economi Cymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â'r gyfradd anweithgarwch economaidd gynyddol yn Sir Ddinbych?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gweithgarwch economaidd busnesau yn Islwyn?