Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 28/06/2018 i'w hateb ar 03/07/2018
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddiogelwch tân mewn blociau uchel yng Nghymru?
Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i ymateb i argymhellion adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, 'Cadernid Meddwl'?
Pa gynigion sydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwella trafnidiaeth gyhoeddus yn yr ardaloedd na fydd yn cael eu gwasanaethu gan fetro de Cymru?
Ar wnaiff y Prif Weinidog datganiad am ddyfodol ynni’r môr yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i annog Llywodraeth y DU i ail-gydbwyso ei gwariant ar seilwaith?
Sut y mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi'r sector cydweithredol a chydfuddiannol i wella canlyniadau ar gyfer plant a phobl ifanc?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o adroddiad diweddar gan Natural England a'r Gymdeithas Famaliaid am y gostyngiad mewn rhywogaethau mamaliaid yn y DU?
Pa fesurau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cyflwyno i fynd i'r afael â chlefydau anadlol yng Nghymru dros y 12 mis nesaf?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y trafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cynnal gyda Llywodraeth y DU ynghylch effaith Brexit ar Gymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am argaeledd gofal plant yng ngogledd Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyfraddau goroesi canser yng Ngogledd Cymru?
Beth yw strategaeth iechyd y cyhoedd Llywodraeth Cymru ar gyfer lleihau clefydau sy'n gysylltiedig â deiet?
Sut y mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi personél y lluoedd arfog yng Nghymru?