Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 29/05/2025 i'w hateb ar 03/06/2025

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OQ62763 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/05/2025

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n gysylltiedig ag e-feiciau a beiciau modur oddi ar y ffordd?

 
2
OQ62800 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/05/2025

Beth yw camau nesaf y Llywodraeth ar gyfer datblygu cynllun Metro Bae Abertawe?

 
3
OQ62797 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/05/2025

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gorfodi amodau cynllunio ar gyfer datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol?

 
4
OQ62789 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/05/2025

Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith y cytundeb rhwng y DU a'r UE ar Gymru?

 
5
OQ62803 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/05/2025

Pe gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i warchod tir fferm o'r ansawdd uchaf rhag datblygiadau?

 
6
OQ62774 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/05/2025

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i nodi a gwaredu gwariant gwastraffus a lleihau biwrocratiaeth ar draws ei hadrannau a'i chyrff a ariennir yn gyhoeddus?

 
7
OQ62767 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/05/2025

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau nad yw cleifion ym Mhowys yn aros yn hwy na tharged Llywodraeth Cymru i gael triniaeth?

 
8
OQ62801 (w) Wedi’i gyflwyno ar 29/05/2025

Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i wella canlyniadau canser yng Nghymru?

 
9
OQ62772 (w) Wedi’i gyflwyno ar 29/05/2025

Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi eu cael â Llywodraeth y DU ynglŷn ag effaith eu polisiau ar lefelau tlodi yng Nghymru?

 
10
OQ62785 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/05/2025

Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael â heddluoedd ynghylch eu defnydd o noeth-chwiliadau ar blant?

 
11
OQ62798 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/05/2025

Sut mae strategaeth tlodi plant Llywodraeth Cymru yn cefnogi plant a theuluoedd yn Rhondda?

 
12
OQ62771 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/05/2025

Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael â Llywodraeth y DU ynghylch Rheilffordd Wrecsam, Swydd Amwythig a Chanolbarth Lloegr?