Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 25/04/2023 i'w hateb ar 03/05/2023
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Newid Hinsawdd
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y fersiwn ddiweddaraf o'r rhaglen Cartrefi Clyd?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda busnesau ynghylch cyflwyno terfynau cyflymder 20mya cyn bo hir?
Pa gefnogaeth mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i gymunedau sydd eisiau sefydlu grwpiau gweithredu llifogydd?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu'r cynllun adfer natur?
Pa gamau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i atal y toriadau sy'n cael eu gwneud i wasanaethau bws yn Nwyrain De Cymru?
Sut mae'r Gweinidog yn gweithio gyda Chyngor Sir Fynwy i gynyddu'r ddarpariaeth o dai fforddiadwy?
Pa drafodaethau mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Bute Energy ynghylch parc ynni arfaethedig Nant Mithil?
Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i daclo cerbydau oddi ar y ffordd sy'n niweidio'r amgylchedd mewn cymunedau gwledig anghysbell?
Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella ansawdd yr eiddo sydd ar rent yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y broses o fabwysiadu cynlluniau datblygu lleol?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut mae Llywodraeth Cymru yn ymdrin â chreu ynni adnewyddadwy lleol?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am rôl rhwystrau lleihau sŵn ar gefnffyrdd wrth ymyl eiddo preswyl?
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Beth yw blaenoriaethau'r Gweinidog ar gyfer ysgolion yn Sir Benfro ar gyfer y 12 mis nesaf?
Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi eu cael gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch asesiadau cyfrwng Cymraeg ar gyfer pobl niwroamrywiol?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith yr oedi mewn cwblhau asesiadau niwroddatblygiadaol ar ddatblygiad addysgol disgyblion yr Arfon?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi darpariaeth addysg bellach yng Nghasnewydd?
Sut mae Llywodraeth Cymru'n sicrhau bod gan bobl sy'n gadael ysgol yr adnoddau i ymgymryd â phrentisiaethau gweithgynhyrchu?
Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru'n ei rhoi i Eisteddfod Genedlaethol 2023?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i ddatblygu deddfwriaeth addysg yn y cartref?
Sut mae Llywodraeth Cymru’n annog a sicrhau cywirdeb ieithyddol yn yr iaith Gymraeg gan gyrff cyhoeddus yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyllid ysgolion yr 21ain ganrif ar gyfer cyfleusterau addysg yn Sir Ddinbych?
Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i hyrwyddo addysg Gymraeg yn Nwyrain De Cymru?
Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r berthynas rhwng ysgolion a busnesau?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi disgyblion ysgol byddar?