Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 27/04/2022 i'w hateb ar 03/05/2022
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i gynorthwyo aelwydydd ym Mlaenau Gwent gyda'r argyfwng costau byw presennol?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i wella bywydau pobl yn Rhondda?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarpariaeth 5G yng Nghymru?
Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch goruchwylio rheoleiddiwr pêl-droed newydd Lloegr?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y bydd cyllid codi'r gwastad yn ei chael ar seilwaith trafnidiaeth yng Ngogledd Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu nifer y prentisiaethau gradd ledled Cymru?
Beth yw asesiad y Prif Weinidog o'r cynnydd o ran adeiladu Cymru gynhwysol a goddefgar?
Pa gamau mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i gynorthwyo'r sector tai cymdeithasol yn wyneb y cynnydd mewn costau adeiladu?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gofalwyr di-dâl ledled Pen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd tuag at gyhoeddi fersiwn derfynol o strategaeth genedlaethol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol 2022-26?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i ddenu buddsoddiad economaidd mawr i Gasnewydd?
Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael ynghylch gweithredu egwyddor datblygu cynaliadwy Deddf Cynllunio (Cymru) 2016 a Pholisi Cynllunio Cymru yng Nghaerdydd?