Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 26/02/2026 i'w hateb ar 03/03/2026
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar gyllid rheilffyrdd yn Nwyrain De Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflawni Rhwydwaith Gogledd Cymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gan y GIG ddigon o feddyginiaethau a chyflenwadau meddygol i drin cleifion?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am hynt prosiect coridor y gogledd-orllewin?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am amseroedd aros y GIG ym Mhowys?
Pa drafodaethau mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gydag awdurdodau lleol ar fesurau i fynd i'r afael â thyllau yn y ffyrdd?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i sicrhau bod ei blaenoriaethau yn cyd-fynd â rhai pobl Cymru?
Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod pob menyw yng Nghymru yn cael mynediad hawdd at wasanaethau erthylu?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gymorth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i Barcffordd Caerdydd?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â thipio anghyfreithlon?
Beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru ar benderfyniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i gael gwared ar wasanaethau llawfeddygaeth gyffredinol frys o Ysbyty Llwynhelyg?
Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i gefnogi busnesau bach annibynnol yng Ngorllewin De Cymru?
Y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni
Pa gyngor cyfreithiol mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynglŷn â'r pwerau gorfodi sydd ar gael i awdurdodau lleol i sicrhau nad yw landlordiaid cymdeithasol yn gadael eiddo yn wag tra bod pobl yn parhau i fod ar restrau aros, ar ôl pasio'r Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru)?
Sut wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ymateb i ganfyddiad Cymdeithas y Cyfreithwyr bod y nifer o ardaloedd o anialwch cyfreithiol yng Nghymru yn tyfu?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynglŷn ag argymhelliad y gweithgor llysoedd teulu cyffuriau ac alcohol na ddylid symud ymlaen â llysoedd o'r fath ar wahân?