Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 24/02/2021 i'w hateb ar 03/03/2021
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru
Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod busnesau yn Sir Benfro yn gallu cael mynediad at gymorth busnes yn ystod y pandemig?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith y llifogydd diweddar ar y rhwydwaith cefnffyrdd?
Pa fesurau sydd ar waith i gefnogi Maes Awyr Caerdydd pan ddaw'r cyfyngiadau symud i ben?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn helpu busnesau lletygarwch yng Ngogledd Cymru yn ystod y pandemig?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi adferiad busnesau yng ngogledd Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi adferiad economaidd canol dinas Caerdydd yn sgil y pandemig?
Pa gymorth economaidd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi i ganol dinas Casnewydd yn ystod pandemig COVID-19?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi datblygiad economaidd canol trefi ym Merthyr Tudful a Rhymni?
Sut y bydd Canolbarth a Gorllewin Cymru yn elwa o gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer adferiad economaidd ar ôl COVID?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i helpu busnesau bach yng Ngorllewin De Cymru i adfer yn sgil pandemig y coronafeirws?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi busnesau yng Nghwm Cynon?
Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer ehangu llwybrau yn ôl i waith i'r rhai sydd wedi colli cyflogaeth yn ystod y flwyddyn ddiwethaf?
Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd
Beth yw asesiad diweddaraf Llywodraeth Cymru o effaith y cytundeb masnach a chydweithredu rhwng y UE a'r DU ar gymoedd de Cymru?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gronfa ffyniant gyffredin Llywodraeth y DU?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r potensial i ddenu busnesau rhyngwladol i Gymru nawr bod y DU wedi gadael yr UE?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael am leoliadau gwaith tymor byr i ddysgwyr o rannau eraill o Ewrop sy'n dod i Gymru ar ôl Brexit?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddiogelu hawliau cerddorion i weithio a theithio ar draws yr Undeb Ewropeaidd a thu hwnt?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael ynghylch gallu pobl Cymru i astudio dramor ar ôl i'r DU ymadael â'r UE?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad ar effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd ar draffig fferi drwy Borthladd Caergybi?
Pa sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cyflwyno i Lywodraeth y DU ynghylch gweithredu'r gronfa ffyniant gyffredin?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am ddyfodol y diwydiant pysgod cregyn ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am y mesurau a gymerwyd i hwyluso llif masnach Ewropeaidd i Gymru ac o Gymru?
Pa drafodaethau mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch yr awdurdod dyroddi unigol yn sgil ymadwiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd?