Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 29/01/2026 i'w hateb ar 03/02/2026

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OQ63804 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/01/2026

Beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru ynghylch a ddylid datganoli plismona i Gymru?

 
2
OQ63808 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/01/2026

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o nifer y ceisiadau i brifysgolion gan gymunedau ledled Islwyn?

 
3
OQ63807 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/01/2026

Beth y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau darpariaeth ddeintyddiaeth y GIG?

 
4
OQ63776 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/01/2026

A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar y rhaglen o waith ar gefnffyrdd sy'n digwydd ac sydd ar y gweill yn Sir Fynwy?

 
5
OQ63784 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/01/2026

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi cymunedau i gynnal mynediad at wasanaethau lleol hanfodol?

 
6
OQ63803 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/01/2026

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar werth y gadwyn gyflenwi niwclear i economi Cymru?

 
7
OQ63777 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/01/2026

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar drafodaethau Llywodraeth Cymru gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â datganoli plismona a chyfiawnder?

 
8
OQ63773 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/01/2026

A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i leihau rhestrau aros y GIG yn Nwyrain De Cymru?

 
9
OQ63768 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/01/2026

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â firysau a gludir yn y gwaed?

 
10
OQ63774 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/01/2026

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau bach yng Ngorllewin De Cymru?

 
11
OQ63793 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/01/2026

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella glendid trefol mewn cymunedau ledled Cymru?

 
12
OQ63786 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/01/2026

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddarparu cartrefi o ansawdd uchel ym Mlaenau Gwent?