Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 27/01/2021 i'w hateb ar 03/02/2021

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

1
OQ56225 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/01/2021

Pa fesurau sydd ar waith i hyrwyddo cynhyrchu ynni adnewyddadwy ar raddfa fach yng Nghymru?

 
2
OQ56206 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/01/2021

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am reoli'r risg o lifogydd yn Rhuthun?

 
3
OQ56228 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/01/2021

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol?

 
4
OQ56234 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/01/2021

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu'r economi wledig yn ystod y pandemig?

 
5
OQ56207 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/01/2021

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith Storm Christoph ym Mancot, Sandycroft a chymunedau cyfagos?

 
6
OQ56223 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/01/2021

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith ymadael â’r Undeb Ewropeaidd ar y sector bwyd môr yng Nghymru?

 
7
OQ56219 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/01/2021

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu niferoedd pryfed yng Nghymru?

 
8
OQ56215 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/01/2021

Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o benderfyniad Llywodraeth y DU i awdurdodi defnyddio plaladdwyr neonicotinoid?

 
9
OQ56203 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/01/2021

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynigion i wella lles cathod a chŵn yng Nghymru?

 
10
OQ56231 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 27/01/2021

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y mesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau nifer y troseddau amgylcheddol yn Islwyn?

 
11
OQ56236 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/01/2021

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fentrau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â throseddau amgylcheddol?

 
12
OQ56213 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/01/2021

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu’r amgylchedd yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?

Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

1
OQ56226 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/01/2021

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau cyhoeddus lleol yng Nghanol De Cymru?

 
2
OQ56216 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/01/2021

Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o lefelau staff awdurdodau lleol sydd ar gael i ddarparu gwasanaethau allweddol ledled Cymru yn ystod y pandemig COVID-19?

 
3
OQ56212 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/01/2021

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o’r ôl-ddyledion rhent sydd wedi cronni yng Nghaerdydd ers dechrau pandemig y coronafeirws?

 
4
OQ56229 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/01/2021

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gydag awdurdodau lleol ynghylch defnyddio llety brys i bobl ddigartref yn ystod y pandemig?

 
5
OQ56222 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/01/2021

Pa fesurau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cyflwyno i gynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy yn ne-ddwyrain Cymru?

 
6
OQ56224 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/01/2021

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu’r diwydiant tai yn ystod y cyfyngiadau symud COVID-19?

 
7
OQ56237 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/01/2021

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymorth tai i gymunedau ym Mlaenau'r Cymoedd yn y cyfnod ar ôl COVID-19?

 
8
OQ56235 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/01/2021

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn meithrin cydnerthedd o fewn gwasanaethau diogelu'r cyhoedd ym maes llywodraeth leol?

 
9
OQ56205 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/01/2021

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gwerthusiad o Rhentu Doeth Cymru?

 
10
OQ56208 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/01/2021

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ynghylch sicrhau bod gweithwyr awdurdodau lleol yn cael gwared ar gyfarpar diogelu personol ac eitemau gwastraff risg COVID-19 eraill yn ddiogel?

 
11
OQ56209 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/01/2021

Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cael â darparwyr tai cymdeithasol am y ffordd orau o gefnogi eu tenantiaid yn ystod pandemig y coronafeirws?

 
12
OQ56221 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/01/2021

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i leihau’r ôl troed carbon wrth adeiladu tai yng Nghymru?