Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 27/11/2025 i'w hateb ar 02/12/2025
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i weithredu argymhellion adroddiad terfynol Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru ym mis Tachwedd 2020?
Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i'r afael ag oedi o ran rhyddhau o ysbytai?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar y gostyngiad yn nifer y dysgwyr yng Nghymru sy'n ennill cymwysterau mewn ieithoedd rhyngwladol mewn ysgolion a cholegau?
Pa gamau mae'r Prif Weinidog yn eu cymryd i gefnogi mentrau cymdeithasol yn Sir Ddinbych?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar Uwchgynhadledd Fuddsoddi Cymru a gynhaliwyd ar 1 Rhagfyr 2025?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r effaith y bydd cyllideb hydref y DU yn ei chael ar Gymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn lleihau tlodi yn Nwyrain De Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar effaith cyllideb ddiweddar Llywodraeth y DU ar Gymru?
Sut y bydd buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn cyfleoedd AI o fudd i fusnesau bach a chanolig yng ngogledd Cymru?
Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i ddynion â chanser y prostad?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith cyllideb yr hydref Llywodraeth y DU ar oedolion o oedran gweithio yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar uwchraddio llinellau craidd y Cymoedd, gan gynnwys llinell Treherbert yn y Rhondda?