Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 25/11/2020 i'w hateb ar 02/12/2020
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Pa ganllawiau y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhoi i fyrddau iechyd lleol ar atal achosion o COVID-19 mewn ysbytai?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi gwasanaethau diagnostig ledled Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith COVID-19 ar unigrwydd?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effeithiolrwydd trafodaethau rhynglywodraethol ynghylch yr ymateb i COVID-19?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am driniaeth colli golwg yng ngogledd Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddosbarthu brechlynnau COVID-19 ledled Cymru?
A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae byrddau iechyd Cymru yn paratoi ar gyfer cyflwyno'r don gyntaf o frechlynnau COVID-19?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fesurau diogelu iechyd ym Mlaenau Gwent?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda swyddogion iechyd lleol a chynghorwyr sir ynghylch cyfraddau achosion COVID-19 yng ngorllewin Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fanteision rhagnodi electronig i feddygon teulu a fferyllfeydd yn Alun a Glannau Dyfrdwy?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effeithiolrwydd ymgysylltiad Llywodraeth y DU â'r llywodraethau datganoledig ar ymateb cydgysylltiedig i COVID-19?
Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ba mor gyflym y gellir cyflwyno brechlyn a'i roi i bobl risg uchel ar ôl iddo gael ei gymeradwyo?
Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg
A wnaiff y Gweinidog amlinellu strategaeth Llywodraeth Cymru i gefnogi iechyd meddwl a llesiant pobl ifanc yn ne Cymru?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru ynghylch rheoliadau COVID-19?
Pa effaith y mae COVID-19 yn ei chael ar bobl sy'n byw gydag awtistiaeth yng Nghymru?
Pa strategaethau sydd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau fod modd cadw siaradwyr Cymraeg ifanc yn y gymuned leol, yn enwedig mewn cymunedau gwledig?
Pa fesurau sydd ar waith i hyrwyddo gwydnwch gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru yn ystod y pandemig COVID-19?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl y tu allan i oriau arferol?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r ddarpariaeth iechyd meddwl yn Llanelli?
Pa gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei roi i glybiau rygbi a phêl-droed cymunedol sydd wedi cael eu gorfodi i gau eu cyfleusterau oherwydd COVID-19?
Pa fentrau sy'n cael eu cynllunio gan Lywodraeth Cymru i wella iechyd meddwl a llesiant pobl ifanc?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith hapchwarae ar iechyd meddwl yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gefnogwyr yn dychwelyd i ddigwyddiadau chwaraeon?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am iechyd meddwl plant a phobl ifanc yn Nwyrain De Cymru?