Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 25/09/2024 i'w hateb ar 02/10/2024

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai

1
OQ61604 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/09/2024

Pa safonau gofal i denantiaid y mae Llywodraeth Cymru yn eu disgwyl gan gymdeithasau tai?

 
2
OQ61623 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/09/2024

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda llywodraeth leol yn Islwyn i sicrhau bod cyfleusterau cymunedol yn cael eu diogelu?

 
3
OQ61597 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/09/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar safon ansawdd tai Cymru?

 
4
OQ61611 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/09/2024

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i fynd i'r afael â chysgu allan?

 
5
OQ61595 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/09/2024

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddiogelu awdurdodau lleol rhag toriadau cyllid?

 
6
OQ61584 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/09/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar waith adfer sy'n cael ei wneud ar adeiladau preswyl tal sydd mewn perchnogaeth breifat yng Nghymru yn dilyn tân Tŵr Grenfell?

 
7
OQ61614 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/09/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet sefydlu cymuned ymarfer ar gyfer y grant tai cymdeithasol?

 
8
OQ61600 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/09/2024

Pa gymorth y mae'r Llywodraeth yn ei roi i awdurdodau lleol i gynnal swyddogaethau anstatudol?

 
9
OQ61585 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 25/09/2024

Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i sefydliadau sy'n trosi eiddo masnachol gwag yn dai preswyl?

 
10
OQ61608 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/09/2024

Pa gamau sydd ar gael i'r Ysgrifennydd Cabinet pan na fo awdurdod lleol yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru?

 
11
OQ61605 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/09/2024

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â'r argyfwng tai?

 
12
OQ61619 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/09/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drefniadau gweithio agosach rhwng Cyngor Blaenau Gwent a Chyngor Torfaen?

Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

1
OQ61603 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/09/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am y defnydd o unedau cyfeirio disgyblion yn Aberconwy?

 
2
OQ61609 (w) Wedi’i gyflwyno ar 25/09/2024

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddarparu cyfleoedd dysgu proffesiynol i staff yn y sector addysg?

 
3
OQ61587 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/09/2024

Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o'r cyfraniad y mae ysgolion annibynnol yn ei wneud i addysg disgyblion yng Nghymru?

 
4
OQ61588 (w) Wedi’i gyflwyno ar 25/09/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet rhoi diweddariad ar waith grŵp llywio cenedlaethol anghenion dysgu ychwanegol cyfrwng Cymraeg?

 
5
OQ61622 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/09/2024

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ansawdd y ddarpariaeth addysgol yn Islwyn?

 
6
OQ61615 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/09/2024

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith penderfyniad Llywodraeth y DU, sef codi TAW ar ysgolion preifat, ar ysgolion yng Nghymru?

 
7
OQ61586 (w) Wedi’i gyflwyno ar 25/09/2024

Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi’u cael ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru ynglŷn ag effaith y Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) ar ddisgyblion yn y de-ddwyrain?

 
8
OQ61620 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 25/09/2024

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael ag achosion o osgoi'r ysgol am resymau emosiynol yng Ngorllewin De Cymru?

 
9
OQ61612 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/09/2024

Pa gamau eraill fydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella addysg uwchradd?

 
10
OQ61593 (w) Wedi’i gyflwyno ar 25/09/2024

Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi eu cael ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru am y ddarpariaeth cludiant o’r cartref i’r ysgol yng Ngorllewin De Cymru?

 
11
OQ61617 (w) Wedi’i gyflwyno ar 25/09/2024

Sut y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn gweithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru i sicrhau nad yw mynediad at gludiant i'r ysgol yn cael effaith negyddol ar bresenoldeb dysgwyr?

 
12
OQ61594 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/09/2024

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella mynediad at addysg?