Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 25/09/2019 i'w hateb ar 02/10/2019
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghaerdydd?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i helpu twf busnesau bach yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno trenau newydd ar gyfer y Rhondda fel rhan o'r fasnachfraint reilffyrdd newydd?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut mae Llywodraeth Cymru am wella mynediad i'r anabl i'r rheilffyrdd yng Nghymru?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael ynghylch manteisio'n llawn ar adeiladu adrannau 5 a 6 o ffordd Blaenau'r Cymoedd, yr A465?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth i fusnesau bach yn Sir Benfro?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith sy'n cael ei wneud i ehangu amlder y gwasanaethau rheilffordd ar lein Maesteg?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gwelliannau arfaethedig i'r seilwaith trafnidiaeth yng nghanolbarth Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella gwasanaethau bysiau yng nghymoedd de Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddarparu datganiad am wasanaethau rheilffyrdd yn ne-ddwyrain Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am rôl Llywodraeth Cymru o ran datblygu gorsaf fysiau newydd Caerdydd?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae polisïau Llywodraeth Cymru yn creu swyddi yn ne-ddwyrain Cymru?
Y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am faint o fusnesau sydd wedi ceisio cymorth a chyngor gan borth Brexit Llywodraeth Cymru?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion yr Undeb Ewropeaidd ynghylch Brexit?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cynnal ynghylch Brexit yn dilyn dyfarniad diweddar Goruchaf Lys y DU ynghylch addoediad?
Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith Brexit heb gytundeb ar sefydliadau'r trydydd sector yng Nghymru?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'r gwrthbleidiau mewn perthynas â safbwynt Llywodraeth Cymru ar Brexit?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am gynlluniau paratoadau Brexit Llywodraeth Cymru ar gyfer Sir Benfro?
Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o waith cynllunio awdurdodau lleol a pharatoadau ar gyfer y posibilrwydd o Brexit heb gytundeb?
Pa drafodaeth y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi ei chynnal gyda Llywodraeth y DU ynglyn ag amddiffyn buddiannau Cymru yn y broses Brexit wedi 31 Hydref 2019?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch cynnal ail refferendwm ar Brexit?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am ganlyniad achos addoediad y Goruchaf Lys yn dilyn y dyfarniad a basiwyd ar 24 Medi 2019?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cynnal gyda Llywodraeth y DU ynghylch y cynigion sy'n dod i'r amlwg ar gyfer dewis amgen i'r trefniadau wrth gefn, y 'backstop', ar gyfer ymadawiad y DU â'r UE?
Pa baratoadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud ar gyfer ymadawiad y DU â'r UE?