Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 25/06/2025 i'w hateb ar 02/07/2025
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar gwblhau Ffordd Blaenau'r Cymoedd yr A465?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wneud y strydoedd yn fwy diogel i fenywod gerdded a beicio?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar fuddsoddiad mewn rheilffyrdd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael â chydweithwyr yn y Cabinet ynghylch y sector ynni yng Ngogledd Cymru?
Pa drafodaethau y mae yr Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio ynghylch cefnogi busnesau y mae cau porthladd Caergybi wedi effeithio arnynt?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gynyddu capasiti ar drafnidiaeth gyhoeddus?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gwella trafnidiaeth gyhoeddus yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i wella darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus yng Ngogledd Cymru?
Pryd mae'r Llywodraeth yn bwriadu dechrau'r gwaith adeiladu ar ffordd osgoi Llandeilo?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar weithredu'r cynllun bathodyn glas?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar derfynau cyflymder trefol yng ngogledd Cymru?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar fynediad at gludiant rhwng y cartref a'r ysgol yn Nwyrain De Cymru?
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar effeithiolrwydd y system cyfiawnder ieuenctid wrth atal troseddau ieuenctid?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael ag effaith gymunedol barhaus y camweddiad cyfiawnder a gaiff ei adnabod yn gyffredinol fel Pump Caerdydd?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r rhesymau dros y cynnydd mewn troseddau gwledig yng Nghymru fel yr adroddwyd gan NFU Mutual?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi banciau bwyd i helpu teuluoedd yn Nwyrain De Cymru?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar gymorth Llywodraeth Cymru i elusennau ym Mhreseli Sir Benfro?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â thlodi plant ym Mlaenau Gwent?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi cymunedau ffydd Cymru?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella bywydau pobl anabl?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ffoaduriaid o Wcráin yng Nghymru?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar drafodaethau â Llywodraeth y DU ar ddarparu canolfan breswyl i fenywod yng Nghymru?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod croestoriad o'r gymuned yn cyflwyno eu hunain i wasanaethu fel ynadon?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar fynediad i dai a lloches ar gyfer goroeswyr trais?
Comisiwn y Senedd
Pa ystyriaeth y mae'r Comisiwn wedi'i roi i wella hygyrchedd ac amlygrwydd ar-lein gwybodaeth am waith y Senedd er mwyn cefnogi gwell ymgysylltiad cyhoeddus ar draws Cymru?
Pa waith y mae'r Comisiwn yn ei wneud i wella hygyrchedd cofnodion pleidleisio ar wefan y Senedd?