Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 27/06/2024 i'w hateb ar 02/07/2024
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i ddiogelu eiddo yn Alun a Glannau Dyfrdwy rhag llifogydd?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella'r economi yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyfraniad pobl o'r tu allan i Brydain Fawr sy'n gweithio yn y GIG a'r sector gofal cymdeithasol yng Nghymru?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi gwasanaethau bysiau?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am berfformiad Ysbyty Glan Clwyd?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch trwyddedu arfau tanio yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar gymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau bysiau?
A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar drydedd bont y Fenai?
Pa sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud i Lywodraeth y DU ynghylch cynyddu gwariant cyhoeddus?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r effaith y bydd canlyniadau gwahanol etholiad cyffredinol y DU yn ei chael ar gyllideb Llywodraeth Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cyhoeddiad bod Kimberly-Clark yn ymgynghori ar y bwriad i gau ei safle yn y Fflint?
Beth yw blaenoriaethau economaidd cyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer cydweithio â Llywodraeth newydd y DU?