Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 28/05/2026 i'w hateb ar 02/06/2026

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OQ64075 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/05/2026

Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i gynnal o berfformiad unedau damweiniau ac achosion brys yng Nghasnewydd ac Islwyn?

 
2
OQ64070 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/05/2026

Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â llygredd dŵr?

 
3
OQ64072 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/05/2026

Sut fydd y Prif Weinidog yn sicrhau bod cynnydd wrth ymateb i'r argyfwng natur a hinsawdd ar draws portffolios y Llywodraeth yn cael ei fesur a'i adrodd yn dryloyw ac yn ystyrlon, heb weinidog penodol dros yr amgylchedd?

 
4
OQ64074 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/05/2026

A wnaiff y Prif Weinidog ymrwymo i gynnig TGAU ffiseg, cemeg a bioleg ar wahân, a gwrthdroi cynlluniau'r weinyddiaeth flaenorol i gynnig gwyddoniaeth gyfunol yn unig?

 
5
OQ64081 (d) Wedi’i gyflwyno ar 28/05/2026

Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i godi safonau addysg i bawb, er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn cael mynediad at addysg o ansawdd uchel ym mhob ysgol?

 
6
OQ64078 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/05/2026

Pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i fynd i'r afael â'r materion sy’n parhau i godi ym mhob maes gofal cymdeithasol?

 
7
OQ64077 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/05/2026

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r sector lletygarwch, er mwyn diogelu busnesau a swyddi?

 
8
OQ64080 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/05/2026

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn dileu rhwystrau i sicrhau bod hawliau pobl anabl wedi'u hymgorffori'n llawn yn y gyfraith a bywyd cyhoeddus?

 
9
OQ64073 (e) Datganodd yr Aelod fuddiant Wedi’i gyflwyno ar 28/05/2026

Sut y mae'r Prif Weinidog yn hyrwyddo gwaith teg i weithwyr y sector cyhoeddus?

Manylion Buddiant yr Aelod

Cyn Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru
Aelod o undebau - Uno'r Undeb a GMB
 
10
OQ64067 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/05/2026

A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer amaethyddiaeth?

 
11
OQ64076 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/05/2026

Pa gamau fydd y Llywodraeth yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r pwysau ar gyllid llywodraeth leol?

 
12
OQ64069 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/05/2026

Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda gweithredwyr bysiau ac awdurdodau lleol i sicrhau nad yw plant a theuluoedd incwm isel o dan anfantais yn sgil gwasanaethau bysiau heb arian parod ledled Cymru?