Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 26/04/2023 i'w hateb ar 02/05/2023
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leihau llygredd afonydd?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau trên sy’n rhedeg o Fangor ar hyd rheilffordd arfordir y gogledd?
Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i gynyddu nifer y tai cyngor yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol Maes Awyr Caerdydd?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o allu busnesau yn Islwyn i recriwtio staff addas?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am safbwynt Llywodraeth Cymru ar gynigion Bute Energy ar gyfer peilonau yng nghanolbarth Cymru?
Pa gamau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i daclo ansicrwydd bwyd yng Ngorllewin De Cymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â'r argyfwng costau byw i bobl ym Mhen-y-bont?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynnydd a wnaed ar brosiect Porth Wrecsam?
Pa wersi i economi Cymru wnaeth y Prif Weinidog eu dysgu o'i ymweliad diweddar â Gwlad y Basg?
A wnaiff Llywodraeth Cymru roi'r wybodaeth am waith i amddiffyn plant a phobl ifanc rhag niwed sy'n gysylltiedig ag ysmygu?
Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i gefnogi rhieni a gofalwyr yng ngogledd Cymru gyda chost y diwrnod ysgol?