Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 26/03/2025 i'w hateb ar 02/04/2025
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar waith Llywodraeth Cymru i adolygu fformiwla Barnett?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar asesiad Llywodraeth Cymru o effaith datganiad gwanwyn y DU ar Gymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo cynghorau tref a chymunedol gyda'r gost o gyfieithu Cymraeg i Saesneg?
Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn eu cael gyda chydweithwyr Llywodraeth Cymru a Phrifysgol Caerdydd i sicrhau parhad cyfleoedd ymchwil nyrsio yn Gymraeg?
Pa gamau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn eu cymryd i sicrhau gwerth am arian i drethdalwyr Cymru o grantiau a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i'r trydydd sector?
Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi’i wneud o’r cyllid canlyniadol y bydd Llywodraeth Cymru yn ei dderbyn o ganlyniad i ymrwymiadau gwariant addysg a wnaed gan Lywodraeth y DU ers mis Hydref 2024?
Sut y mae polisi caffael Llywodraeth Cymru yn sicrhau gwerth cymdeithasol?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar sut y mae datganiad gwanwyn Llywodraeth y DU wedi effeithio ar gyllideb Llywodraeth Cymru?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi datganiad ar y cynnydd a wnaed o ran rhoi dyraniadau canlyniadol ar sail gyfansoddiadol?
Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o effaith y dreth dwristiaeth ar economi gogledd Cymru?
Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o werth am arian ffordd Blaenau'r Cymoedd i Lywodraeth Cymru?
Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o effaith datganiad y gwanwyn Llywodraeth y DU ar gyllid Llywodraeth Cymru?
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Pa arweiniad mae'r Llywodraeth yn ei ddarparu i ysgolion a cholegau er mwyn mynd i'r afael ag effeithiau y diwylliant 'incel'?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi bechgyn niwroamrywiol mewn ysgolion gwladol?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynnal ei hadolygiad blynyddol o'r lwfans cynhaliaeth addysg?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i liniaru effaith costau ynni ar gyllidebau ysgolion?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar gyfranogiad gan ysgolion yn y cynllun Cyn-fyfyrwyr Gyrfa Cymru?
Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o effaith adroddiad blynyddol 2023-24 Estyn ar addysg yn Nwyrain De Cymru?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o safon bwyd mewn ysgolion ledled Cymru?
Sut y mae cyllideb Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r rhaglen cymunedau dysgu cynaliadwy?
Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o effeithiolrwydd eu cynlluniau i fynd i’r afael â rhywiaeth a chasineb at ferched mewn ysgolion?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol yn Sir Benfro?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella presenoldeb disgyblion?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi plant y lluoedd arfog mewn ysgolion?