Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 23/02/2022 i'w hateb ar 02/03/2022
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Newid Hinsawdd
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leihau'r perygl o lifogydd ar yr A4042 ger pont Llanelen?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn gwella seilwaith trafnidiaeth yn Alun a Glannau Dyfrdwy?
A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad am gynllun Arbed 2 yn Arfon?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi datgarboneiddio trafnidiaeth?
Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei roi i gwmnïau yn Sir Benfro i’w helpu i leihau eu hallyriadau carbon?
Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chynghorau lleol i fynd i'r afael â llygredd aer?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog yr Economi am hyrwyddo manteision economaidd cynhyrchu ynni adnewyddadwy yng Ngogledd Cymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Dŵr Cymru i liniaru perygl llifogydd yng Ngorllewin De Cymru?
Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i ddod a phartneriaid at ei gilydd i wella rheoli maetholion yn afonydd Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i leihau llygredd afonydd yn Nwyrain De Cymru?
Pa fentrau y mae Llywodraeth Cymru yn ymgymryd â hwy er mwyn cynnwys pobl Islwyn mewn sgwrs genedlaethol am natur?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cymunedau yng nghanolbarth Cymru yn dilyn llifogydd o ganlyniad i'r stormydd diweddar?
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Pa gynnydd y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud tuag at gyflawni'r targedau a nodir yn Cymraeg 2050?
Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi'u cael i ddatrys yr anghydfod pensiwn mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o gasglu a defnyddio data biometrig disgyblion mewn ysgolion?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi myfyrwyr addysg uwch sy'n dymuno astudio iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella mynediad at ddarpariaeth blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg?
Pa gyngor a chymorth y mae Llywodraeth Cymru'n eu darparu i ysgolion i sicrhau bod cyfranogiad mewn chwaraeon ar gael i bob myfyriwr?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am raglen ysgolion a cholegau'r 21ain ganrif yn Abertawe?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynglŷn ag argaeledd deunydd adolygu ar gyfer y prawf gyrru theori yn Gymraeg?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith y cod trefniadaeth ysgolion ar ysgolion yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r system cyllid myfyrwyr i gefnogi myfyrwyr a graddedigion yn ystod yr argyfwng costau byw?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi iechyd a lles mewn ysgolion?