Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 25/02/2021 i'w hateb ar 02/03/2021
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i hyrwyddo cyfranogiad dinasyddion yn y broses o wneud penderfyniadau?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y capasiti sydd ar gael i ddarparu gwasanaethau cymorth iechyd meddwl ledled Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith amgylcheddol y trên a ddaeth oddi ar y cledrau yn Llangennech y llynedd?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gymorth Llywodraeth Cymru i fusnesau ym Merthyr Tudful a Rhymni?
Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ran cyrraedd ei tharged ar gyfer tai fforddiadwy?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarparu'r brechlyn COVID-19 yng Nghaerffili i grŵp blaenoriaeth 6 y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio?
Beth yw blaenoriaethau'r Prif Weinidog ar gyfer gwella addysg sy'n seiliedig ar ymchwil yng Nghymru?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella diagnosteg canser yn sgil pandemig y coronafeirws?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fanteisio i'r eithaf ar botensial prosiectau seilwaith ym Mlaenau'r Cymoedd o safbwynt datblygu economaidd, fel yr amlinellwyd yn adroddiad diweddar Sefydliad Bevan, 'More than a bypass: unleashing the potential of the A465'?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drefn profi coronafeirws Llywodraeth Cymru?
Pa gamau y mae'r Prif Weinidog yn eu cymryd i annog ymwelwyr i ddychwelyd i Gymru yn dilyn y cyfyngiadau symud coronafeirws diweddar?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am setliad llywodraeth leol 2021-22?