Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 26/01/2022 i'w hateb ar 02/02/2022
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Pa flaenoriaethau y mae'r Gweinidog yn eu hystyried wrth ddyrannu cyllid i'r portffolio cyfiawnder cymdeithasol?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith yr argyfwng costau byw ar gyllidebau awdurdodau lleol?
Pa ystyriaeth a roddodd y Gweinidog i gyfrifoldebau awdurdodau lleol dros gynnal a chadw ffyrdd wrth bennu'r gyllideb ar gyfer y portffolio newid hinsawdd?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau cyllid teg i awdurdodau lleol ledled Gogledd Cymru?
Sut mae'r Gweinidog yn monitro gwerth am arian ac effeithiolrwydd gwariant Llywodraeth Cymru ar ddeddfwriaeth?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i alluogi awdurdodau lleol i godi ardoll twristiaeth?
Pa ystyriaeth a roddodd y Gweinidog i gefnogi busnesau i ddelio ag effaith COVID-19 wrth ddyrannu cyllid i bortffolio'r economi?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y setliad llywodraeth leol i Gyngor Sir Ynys Môn ar gyfer 2022-23?
Pa ystyriaeth a roddwyd i wella seilwaith trafnidiaeth wrth bennu cyllideb y portffolio newid hinsawdd?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effeithiolrwydd cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor wrth fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o setliad cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer yr awdurdodau lleol sy'n gwasanaethu etholaeth Ogwr?
Beth mae'r Gweinidog yn ei wneud i sicrhau bod y system treth gyngor yng Nghymru yn deg?
Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ar effaith plaladdwyr ar iechyd gwenyn?
Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi'u cynnal gyda’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am wasanaethau fasgiwlar i gleifion o Arfon a phob rhan o’r gogledd ers ad-drefnu’r ddarpariaeth?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi marchnata cig oen a chig eidion o Gymru?
Sut mae'r Llywodraeth yn cysylltu â Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ar arolygiadau o'r trac rasio milgwn sy'n weddill yng Nghymru i sicrhau safonau lles anifeiliaid?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda chyd-Weinidogion yn y Cabinet ynghylch cysylltedd trafnidiaeth yng Ngogledd Cymru?
Sut bydd y cynllun ffermio cynaliadwy yn cefnogi prosiectau cadwraeth cynefinoedd?
A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ymdrechion i sicrhau y defnyddir unrhyw fwyd sy’n cael ei gynhyrchu yng Nghymru mewn ffordd effeithlon?
Sut bydd y cynllun ffermio cynaliadwy yn helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng natur?
Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer y cynllun ffermio cynaliadwy?
A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r meini prawf ar gyfer derbyn cyllid o dan gronfa her ddatgarboneiddio a COVID Llywodraeth Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod parthau perygl nitradau'n cael eu gorfodi'n effeithiol?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu gwledig?