Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 28/01/2021 i'w hateb ar 02/02/2021
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa feini prawf y bydd Llywodraeth Cymru yn eu defnyddio i benderfynu pryd y bydd atyniadau ymwelwyr awyr agored yn gallu ailagor?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynigion Llywodraeth y DU ar gyfer y gronfa ffyniant gyffredin?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ddefnyddio amcangyfrifon poblogaeth fel sail i ddyraniadau cyllid cynghorau lleol?
Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i'r afael ag ansicrwydd bwyd yng Nghaerdydd?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith Brexit ar bobl ifanc yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarparu'r brechlyn COVID-19 yng Nghaerffili?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gymorth i ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd sy'n byw yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer adfywio'r stryd fawr yng Ngogledd Cymru?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r ddarpariaeth o wasanaethau adsefydlu yn ystod cyfnodau o gyfyngiadau COVID-19?
Pa asesiadau risg y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cynnal hyd yma mewn perthynas ag effeithiau'r cyfyngiadau symud yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am hynt y broses o frechu grwpiau blaenoriaeth yng Nghymru?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o helpu plant i ddal i fyny ar yr addysg y maent wedi'i methu yn ystod y pandemig?
Y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip
A wnaiff y Dirprwy Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymyriadau Llywodraeth Cymru i wella diogelwch cymunedol yng Nghwm Cynon?
Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i'r sector gwirfoddol yng Nghymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn ceisio cynnal cysylltiadau agos rhwng cymunedau yng Nghymru fel Islwyn a'u cymunedau cyfatebol yn yr Undeb Ewropeaidd?
A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am rôl gwasanaethau cymorth arbenigol o ran cefnogi goroeswyr trais domestig yn ystod y pandemig?
A wnaiff y Dirprwy Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r sector gwirfoddol yn ystod y pandemig?