Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 24/11/2021 i'w hateb ar 01/12/2021
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Gweinidog yr Economi
Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i gefnogi digwyddiadau mawr yng ngogledd Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r sector gweithgareddau hamdden egnïol yng Ngogledd Cymru?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Cwnsler Cyffredinol ynghylch cyfraniad y sector cyfreithiol i economi Cymru?
A wnaiff y Gweinidog amlinellu strategaeth dwristiaeth Llywodraeth Cymru yng Ngorllewin De Cymru?
Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i gynyddu nifer y bobl yng Nghymru sy'n cael eu cyflogi mewn sectorau â chyflogau uwch yn yr economi?
Beth yw strategaeth y Gweinidog ar gyfer sicrhau bod y gwarant i bobl ifanc yn helpu i lenwi'r bylchau sgiliau mwyaf arwyddocaol sy'n dal yr economi yn ôl?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo masnach ryngwladol?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r economi sylfaenol yng Nghymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi busnesau twristiaeth a lletygarwch y gaeaf hwn?
A wnaiff y Gweinidog nodi blaenoriaethau'r Llywodraeth ar gyfer cefnogi busnesau ar y stryd fawr yng Nghymru dros y 12 mis nesaf?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i helpu i dyfu busnesau bach a chanolig eu maint yn Islwyn?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ganllawiau presennol Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithio gartref?
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi'u cynnal ynglŷn â capsiti meddygon teulu i ymateb i'r galw ar wasanaethau yng Nghaerdydd?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella mynediad at ofal sylfaenol yng Nghymru?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o gapasiti ysbytai yn Nwyrain De Cymru dros gyfnod y gaeaf?
Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod yr holl wasanaethau anhwylderau bwyta yn gallu darparu ymyrraeth gynnar?
Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i helpu i sbarduno recriwtio i'r sector gofal cymdeithasol yng ngogledd Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am amser ymateb gwasanaethau ambiwlans ym Mlaenau Gwent?
Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i annog recriwtio staff gofal iechyd ar draws rhanbarth Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith y polisi cymeradwyo ymlaen llaw Cymru gyfan ar gymunedau sydd wedi'u lleoli ger ffiniau byrddau iechyd?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth o wasanaethau ambiwlans yng Ngorllewin De Cymru?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o safon gwasanaethau ysbytai yn Nwyrain De Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar lefelau brechu yng Ngorllewin De Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella diagnosis cynnar o HIV?