Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 24/09/2025 i'w hateb ar 01/10/2025

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

1
OQ63158 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/09/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar y prosiect piblinell hydrogen rhwng Wrecsam a Glannau Dyfrdwy?

 
2
OQ63175 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/09/2025

Beth y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i dyfu'r sector cydweithredol yng Nghymru?

 
3
OQ63155 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/09/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar fewnfuddsoddiad i Gymru?

 
4
OQ63143 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/09/2025

Pa rannau o'r economi y mae Llywodraeth Cymru wedi'u nodi fel sectorau twf?

 
5
OQ63149 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/09/2025

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r sector ynni yng Ngogledd Cymru?

 
6
OQ63154 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/09/2025

Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o effaith rheoliadau nitrad a ffosffad ar y broses gynllunio yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?

 
7
OQ63157 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/09/2025

Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o effaith amgylcheddol a chymunedol estyniad arfaethedig chwarel Dinbych a sut y bydd pryderon lleol yn cael eu hystyried yn y broses o wneud penderfyniadau?

 
8
OQ63168 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/09/2025

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi twf chwaraeon ar lawr gwlad?

 
9
OQ63176 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/09/2025

Pa sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael ynglŷn ag adolygiad o Nodyn Cyngor Technegol Mwynau Cymru 1: Agregau?

 
10
OQ63146 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/09/2025

Beth yw blaenoriaethau economaidd yr Ysgrifennydd Cabinet ar gyfer Canol De Cymru am weddill y Senedd hon?

 
11
OQ63170 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/09/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar bolisi ynni gwynt ar y tir Llywodraeth Cymru?

 
12
OQ63172 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/09/2025

Pa gamau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn eu cymryd i sicrhau bod polisïau ynni Llywodraeth Cymru yn diogelu tir amaethyddol delfrydol?

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

1
OQ63165 (w) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 24/09/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar yr ystadegau diweddaraf o ran lefelau cyflogaeth yn y gwasanaeth iechyd?

 
2
OQ63144 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/09/2025

Beth yw disgwyliadau Llywodraeth Cymru ar gyfer deallusrwydd artiffisial wrth wella cynhyrchiant yn y GIG?

 
3
OQ63156 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/09/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar gamau gweithredu Llywodraeth Cymru i leihau rhyddhau gohiriedig o'r ysbyty?

 
4
OQ63150 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/09/2025

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella gwasanaethau iechyd ym Mhreseli Sir Benfro?

 
5
OQ63174 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/09/2025

Sut y mae'r Llywodraeth yn sicrhau bod Ysbyty'r Faenor yn darparu safon dderbyniol o ofal i gleifion yn Nwyrain De Cymru?

 
6
OQ63163 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/09/2025

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi mynediad at wasanaethau strôc yng nghanolbarth Cymru?

 
7
OQ63161 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/09/2025

Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan am ddiogelwch cleifion ac amodau gwaith mewn meddygfeydd a reolir gan eHarley Street?

 
8
OQ63164 (w) Wedi’i gyflwyno ar 24/09/2025

Beth yw cynlluniau’r Llywodraeth i leihau rhestrau aros am asesiadau niwroddatblygiadol?

 
9
OQ63160 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/09/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar berfformiad adrannau brys yng Ngogledd Cymru?

 
10
OQ63166 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/09/2025

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi ymchwil i diwmorau'r ymennydd?

 
11
OQ63167 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 24/09/2025

Beth y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn ei wneud i wella mynediad at gymorth iechyd meddwl?

 
12
OQ63152 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/09/2025

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella'r gwasanaeth cludo cleifion nad ydynt yn achosion brys?