Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 26/06/2025 i'w hateb ar 01/07/2025
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i gefnogi'r gymuned Gymraeg yn Llundain yn dilyn y cyhoeddiad bod ei grant blynyddol i Ysgol Gymraeg Llundain wedi'i dynnu'n ôl?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ddarpariaeth gwasanaethau deintyddol ym Mhreseli Sir Benfro?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar amseroedd aros cleifion yn ysbytai gogledd Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau effaith toriadau lles ar gymunedau yn Nwyrain De Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar gamau i weithredu argymhellion Estyn i wella Twf Swyddi Cymru Plws?
Pa ddadansoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o fanteision adolygiad gwariant Llywodraeth y DU i Gymru?
Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella cyrhaeddiad addysgol yng nghymunedau mwyaf difreintiedig Cymru?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddatblygu'r diwydiant TGCh yng Nghymru?
Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i wneud dwyn anifeiliaid anwes yn drosedd benodol?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi busnesau bach a chanolig yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau yn y sector amddiffyn yng Nghymru?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o nifer y swyddi morwyr a gaiff eu cefnogi gan y gwasanaethau fferi o borthladdoedd yng Nghymru?