Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 27/03/2025 i'w hateb ar 01/04/2025
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi awdurdodau lleol gyda cheisiadau cynllunio i storio batris?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith toriadau i fudd-daliadau lles ar drigolion yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar weithrediad y fframwaith cysylltiadau rhynglywodraethol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU yn 2022?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i atal tanau gwyllt yng Ngogledd Cymru?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o effaith cynlluniau Llywodraeth y DG i dorri budd-daliadau ar Gymru?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella canlyniadau iechyd yn Nwyrain De Cymru?
Beth yw blaenoriaethau trafnidiaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Delyn?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am safbwynt y Llywodraeth ar ddatganoli pwerau dros Ystad y Goron i Gymru?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i ddatblygu chwaraeon llawr gwlad?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith Llywodraeth Cymru gydag uned gyflawni Burns?
Pa fentrau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gweithredu i gefnogi twf a datblygiad economaidd ym Mlaenau Gwent?
Sut y mae cyllideb Llywodraeth Cymru yn helpu i fynd i'r afael â thlodi plant?