Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 24/02/2022 i'w hateb ar 01/03/2022
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa fentrau y mae Llywodraeth Cymru yn ymgymryd â hwy i roi terfyn ar y stigma sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl ym Mhen-y-bont ar Ogwr?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynllun datblygu lleol newydd Caerdydd?
Pa gefnogaeth sy'n cael ei roddi gan Lywodraeth Cymru i gefnogi milfeddygon?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo Dydd Gŵyl Dewi?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau acíwt ac achosion brys yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn y dyfodol?
Pa sicrwydd y mae'r Prif Weinidog wedi'i geisio gan Lywodraeth y DU ynghylch y cyllid sydd ar gael i Lywodraeth Cymru i ymateb i amgylchiadau iechyd y cyhoedd sy'n gysylltiedig â'r coronafeirws?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella mynediad at wasanaethau arbenigol i bobl sy'n byw gyda chlefyd niwronau motor?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r gwaith o ddarparu hyfforddiant meddygol yng Ngogledd Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynnydd o ran dynodi Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn barc cenedlaethol?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol profion COVID yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ail-gychwyn gwasanaethau gofal dydd yn Arfon wrth i gyfyngiadau COVID gael eu llacio?
Sut bydd cynllun gofod newydd y Llywodraeth o fudd i bobl Dwyfor Meirionnydd?