Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 27/01/2022 i'w hateb ar 01/02/2022

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OQ57540 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/01/2022

Pa gymorth sydd ar gael i blant sydd wedi dioddef cam-drin a chamfanteisio rhywiol?

 
2
OQ57560 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/01/2022

Pa sgyrsiau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch cyllid ar gyfer seilwaith rheilffyrdd yng Ngogledd Cymru?

 
3
OQ57538 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/01/2022

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am restrau aros orthopedig yn ardal Bwrdd Iechyd Addysgu Powys?

 
4
OQ57582 (w) Wedi’i gyflwyno ar 27/01/2022

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o wasanaethau fasciwlar yng ngogledd Cymru?

 
5
OQ57561 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/01/2022

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fentrau Llywodraeth Cymru i ddatblygu sgiliau yn y gweithle ar gyfer dysgwyr mewn ysgolion uwchradd?

 
6
OQ57562 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/01/2022

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y gost gynyddol o fyw ar bobl yng Nghymru?

 
7
OQ57549 (w) Wedi’i gyflwyno ar 27/01/2022

A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru er mwyn dathlu Dydd Gŵyl Dewi?

 
8
OQ57563 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/01/2022

Pa gymorth sydd ar gael i ffoaduriaid sy'n cyrraedd Cymru?

 
9
OQ57581 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/01/2022

Sut mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo prosiectau seilwaith ynni gwyrdd?

 
10
OQ57537 (w) Wedi’i gyflwyno ar 27/01/2022

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ynghylch i ba raddau y mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru adnoddau digonol i gyflawni ei ddyletswyddau?

 
11
OQ57542 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/01/2022

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r sector twristiaeth yn ystod y pandemig?

 
12
OQ57551 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/01/2022

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i ddatblygu deddf aer glân i Gymru?