Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 27/01/2022 i'w hateb ar 01/02/2022
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa gymorth sydd ar gael i blant sydd wedi dioddef cam-drin a chamfanteisio rhywiol?
Pa sgyrsiau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch cyllid ar gyfer seilwaith rheilffyrdd yng Ngogledd Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am restrau aros orthopedig yn ardal Bwrdd Iechyd Addysgu Powys?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o wasanaethau fasciwlar yng ngogledd Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fentrau Llywodraeth Cymru i ddatblygu sgiliau yn y gweithle ar gyfer dysgwyr mewn ysgolion uwchradd?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y gost gynyddol o fyw ar bobl yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru er mwyn dathlu Dydd Gŵyl Dewi?
Pa gymorth sydd ar gael i ffoaduriaid sy'n cyrraedd Cymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo prosiectau seilwaith ynni gwyrdd?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ynghylch i ba raddau y mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru adnoddau digonol i gyflawni ei ddyletswyddau?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r sector twristiaeth yn ystod y pandemig?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i ddatblygu deddf aer glân i Gymru?