Cynigion i’w trafod ar 30/12/2020

NDM7530 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 29/12/2020 | I'w drafod ar 30/12/2020

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi'r cytundeb mewn egwyddor y daeth Llywodraeth y DU a'r UE iddo ar ein perthynas hirdymor yn y dyfodol ar ddiwedd y cyfnod pontio.

2. Yn nodi bwriad Llywodraeth y DU i weithredu'r cytundeb drwy Fil yr Undeb Ewropeaidd (Perthynas â'r Dyfodol)

3. Yn edifar nad yw mewn sefyllfa i ystyried cydsyniad deddfwriaethol, gan mai ar fyr rybudd y cafodd y Bil ei ddarparu i'r Senedd a'i fod yn cynnwys darpariaethau a all effeithio ar y setliad datganoli.

4. Yn edifar nad yw'r cytundeb niweidiol hwn yn adlewyrchu dyheadau'r Senedd fel y'u hadlewyrchir yn 'Diogelu Dyfodol Cymru' a hefyd yn 'Y Berthynas rhwng y DU a'r UE yn y dyfodol: Blaenoriaethau negodi i Gymru' ond serch hynny, yn derbyn bod y cytundeb hwn yn llai niweidiol na gadael y cyfnod pontio heb gytundeb masnach.

5. Yn cefnogi’r ymdrechion parhaus i wneud popeth i darfu cyn lleied â phosibl yn y byrdymor ac i leihau'r niwed hirdymor a fydd yn deillio o'r newid yn ein cydberthynas economaidd â'r UE, ac yn galw ar Lywodraeth y DU i weithio gyda Llywodraeth Cymru i'r perwyl hwnnw.

Diogelu dyfodol Cymru

Y berthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol: blaenoriaethau negodi i Gymru

Cyflwynwyd gan

Gwelliannau

NDM7530 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 29/12/2020

Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn gresynu nad yw'r cytundeb yn adlewyrchu ewyllys pobl Cymru yn llawn, fel y mynegwyd yn refferendwm yr Undeb Ewropeaidd ym mis Mehefin 2016, ond yn nodi ei fod yn symud y Deyrnas Unedig io fod yn ddarostyngedig i gyfreithiau'r Undeb Ewropeaidd, sydd wedi cael effaith niweidiol ar ein heconomi a sofraniaeth, ac yn rhoi terfyn ar wleidyddiaeth ymrannol a fynegir gan ymgyrchwyr aros wrth wadu'r broses ddemocrataidd.

NDM7530 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 29/12/2020

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1. Yn croesawu'r cytundeb masnach a chydweithrediad rhwng Llywodraeth y DU a'r Undeb Ewropeaidd.

2. Yn credu ei bod er budd Cymru i roi cefnogaeth i'r cytundeb a rhoi cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer ei weithredu drwy Fil yr Undeb Ewropeaidd (Perthynas yn y Dyfodol).

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio'n adeiladol gyda Llywodraeth y DU i fanteisio ar gyfleoedd newydd i Gymru sy'n deillio o ddiwedd y cyfnod pontio ar ôl Brexit.

NDM7530 - 3 | Wedi’i gyflwyno ar 29/12/2020

Dileu pwyntiau 3, 4 a 5.

NDM7530 - 4 | Wedi’i gyflwyno ar 29/12/2020

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod safbwynt presennol Llywodraeth Cymru ar gytundeb masnach diweddar y DU-UE, a'i chyfeiriadau parhaus at ei dogfen 'Sicrhau Dyfodol Cymru' a'i dogfen 'Y Berthynas rhwng y DU a’r UE yn y Dyfodol: Blaenoriaethau Negodi i Gymru',  yn arwyddion totemig o'i hawydd i danseilio a gwrthdroi canlyniad refferendwm 2016 a ddangosodd yn bendant, yn y digwyddiad democrataidd mwyaf a gynhaliodd y DU, bod pobl Cymru a'r DU am adael yr Undeb Ewropeaidd.

NDM7530 - 5 | Wedi’i gyflwyno ar 29/12/2020

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi'r datganiad a gyhoeddwyd gan Fishing for Leave ar 24 Rhagfyr 2020, a bod rhan ohono'n awgrymu, o ran cytundeb masnach diweddar y DU-UE, nad yw'n cefnu'n llwyr ar reolaeth yr UE dros bysgota yn y DU ac yn awgrymu ymhellach y dylai Prydain adennill rheolaeth lawn dros ei dyfroedd a symud i gyfranddaliadau cwota cywir yn seiliedig ar yr egwyddor ryngwladol o gysylltiad â pharth.

Fishing for Leave: Fishing paid the ultimate price on the way in and it looks like a poor settlement to pay for a deal on the way out – 24 Rhagfyr 2020

NDM7530 - 6 | Wedi’i gyflwyno ar 29/12/2020

Ym mhwynt 4, dileu ‘ond serch hynny, yn derbyn bod y cytundeb hwn yn llai niweidiol na gadael y cyfnod pontio heb gytundeb masnach' a rhoi yn ei le 'ac yn credu ei fod yn cynrychioli Brexit caled nad oes mandad ar ei gyfer ac nad yw o fudd i Gymru'.

Cyflwynwyd gan

NDM7530 - 7 | Wedi’i gyflwyno ar 29/12/2020

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu nad yw'r fargen hon yn cyflawni'r addewidion a wnaed yn refferendwm 2016 ac nad yw'n ganlyniad derbyniol i bobl Cymru pa ffordd bynnag y gwnaethant bleidleisio yn y refferendwm hwnnw.

Cyflwynwyd gan

NDM7530 - 8 | Wedi’i gyflwyno ar 29/12/2020

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y bydd y fargen hon yn arwain at ras i'r gwaelod o ran hawliau gweithwyr a safonau amgylcheddol ac y bydd yn niweidiol iawn i economi Cymru.

Cyflwynwyd gan

NDM7530 - 9 | Wedi’i gyflwyno ar 29/12/2020

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn peidio cefnogi bargen Llywodraeth Geidwadol y DU ac yn galw ar gynrychiolwyr Cymru yn Senedd y DU i bleidleisio yn unol â hynny.

Cyflwynwyd gan

NDM7530 - 10 | Wedi’i gyflwyno ar 29/12/2020

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio ffyrdd y gallai Cymru ailymuno â rhaglen Erasmus neu weithio ar ei dewis amgen Cymreig ei hun i Erasmus a fyddai'n cadw prif fanteision y rhaglen.

Cyflwynwyd gan

 

NDM7531 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 29/12/2020 | I'w drafod ar 30/12/2020

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal Rheolau Sefydlog 12.20(i) a 12.22(i) er mwyn caniatáu i NDM7530 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 30 Rhagfyr 2020.

Cyflwynwyd gan