Cynigion i’w trafod ar 30/11/2022

NDM8146 - Cynnig ar gyfer dadl gan Bwyllgor

Wedi’i gyflwyno ar 23/11/2022 | I'w drafod ar 30/11/2022
 

NDM8147 - Dadl Fer

Wedi’i gyflwyno ar 23/11/2022 | I'w drafod ar 30/11/2022

Rhwyd ddiogelwch i blant: gwarchod hawl plant i fod yn ddiogel ar-lein 

 

NDM8149 - Cynnig ar gyfer dadl gan Bwyllgor

Wedi’i gyflwyno ar 23/11/2022 | I'w drafod ar 30/11/2022

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar drefniadau ariannu ar ôl ymadael â’r UE a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Hydref 2022.

Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Tachwedd 2022.

Derbyniwyd ymateb Llywodraeth y DU i’r adroddiad ar 21 Tachwedd 2022. (Saesneg yn unig)

 

NDM8150 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 23/11/2022 | I'w drafod ar 30/11/2022

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.5:

1. Yn sefydlu pwyllgor diben arbennig ymchwiliad COVID-19 Cymru

2. Yn cytuno mai cylch gwaith y pwyllgor yw:

a) nodi ble nad yw ymchwiliad COVID-19 y DU yn gallu craffu'n llawn ar ymateb Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus Cymru i bandemig COVID-19;

b) cynnal ymchwiliad i'r meysydd a nodwyd;

3. Yn cytuno y bydd y pwyllgor yn cael ei ddiddymu erbyn Rhagfyr 2024 yn dilyn dadl yn y Cyfarfod Llawn ar ei adroddiad terfynol.

Cyd-gyflwynwyr

 

NDM8151 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 23/11/2022 | I'w drafod ar 30/11/2022

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi y bydd Dydd Sadwrn y Busnesau Bach yn cael ei gynnal ar 3 Rhagfyr 2022.

2. Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae busnesau bach yn ei wneud o ran cynnal economïau lleol, datblygu cymunedau a chreu swyddi.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio'r ysgogiadau sydd ganddi i gefnogi busnesau bach yng Nghymru yn well.

 

NDM8152 - Cynnig ar gyfer dadl gan Bwyllgor

Wedi’i gyflwyno ar 23/11/2022 | I'w drafod ar 30/11/2022

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol ‘Sicrhau chwarae teg: Adroddiad ar gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol mewn ardaloedd difreintiedig’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Awst 2022.

Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Tachwedd 2022.