Cynigion i’w trafod ar 30/04/2024
NDM8556 - Dadl y Llywodraeth
Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 23/04/2024 | I'w drafod ar 30/04/2024Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6 yn cytuno bod darpariaethau yn y Bil Dioddefwyr a Charcharorion, sef, cymal 16 ynghylch cyfyngu ar gyfrifoldeb rhiant pan fo un rhiant yn lladd y llall; cymal 17 ynghylch marwolaeth yn deillio o gam-drin domestig a chymal 40 sy'n ymwneud ag iawndal i ddioddefwyr y sgandal gwaed heintiedig, i'r graddau y maent o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, yn cael eu hystyried gan Senedd y DU.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Mai 2023 a gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Ebrill 2024 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Y Bil Dioddefwyr a Charcharorion (Saesneg yn unig)
Cyflwynwyd gan
NDM8557 - Dadl y Llywodraeth
Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 23/04/2024 | I'w drafod ar 30/04/2024Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai darpariaethau yn y Bil Dioddefwyr a Charcharorion, sef cymalau 1 i 4, 11, 26 a 27, dioddefwyr ymddygiad troseddol: cod dioddefwyr; cymal 15, canllawiau ar rolau cymorth dioddefwyr penodedig; cymalau 28 - 33 a 35 - 39 dioddefwyr digwyddiadau mawr, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, gael eu hystyried gan Senedd y DU.