Cynigion i’w trafod ar 29/11/2022

NDM8141 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 22/11/2022 | I'w drafod ar 29/11/2022

Cynnig bod y Senedd , yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru).

Gosodwyd Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Senedd ar 7 Mehefin 2022.

Gosodwyd adroddiad Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) gerbron y Senedd ar 18 Tachwedd 2022.

 

NDM8142 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 22/11/2022 | I'w drafod ar 29/11/2022

Cynnig bod y Senedd:

At ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

 

NDM8143 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 22/11/2022 | I'w drafod ar 29/11/2022

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cynllun Morol, Pysgodfeydd a Dyframaethu (Cymorth Ariannol) (Cymru) 2022 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Tachwedd 2022.

 

 

NDM8144 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 22/11/2022 | I'w drafod ar 29/11/2022

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 12 a Diwygiad Canlyniadol) 2022 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Tachwedd 2022.

 

 

NDM8145 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 22/11/2022 | I'w drafod ar 29/11/2022

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:
 
Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i’r Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn canlynol:
 
a) Adran 1;

b) Adran 2;

c) Atodlen 1;

d) Adrannau 3-23;

e) Teitl Hir.