Cynigion i’w trafod ar 28/11/2018

NDM6878 - Cynnig ar gyfer dadl gan Bwyllgor

Wedi’i gyflwyno ar 21/11/2018 | I'w drafod ar 28/11/2018

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, 'Meithrin Cydnerthedd - Ymchwiliad i gyllid heblaw cyllid cyhoeddus ar gyfer y celfyddydau’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Mawrth 2018.

Nodyn: Gosodwyd yr ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 4 Mehefin 2018.

 

NDM6879 - Cynnig ar gyfer dadl gan Bwyllgor

Wedi’i gyflwyno ar 21/11/2018 | I'w drafod ar 28/11/2018

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, 'Gwerthu Cymru i'r Byd', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Medi 2018.

Nodyn: Gosodwyd yr ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 21 Tachwedd 2018.

 

NDM6880 - Dadl y Cynulliad

Wedi’i gyflwyno ar 21/11/2018 | I'w drafod ar 28/11/2018

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn credu mai'r Prif Weinidog newydd. a gaiff ei benodi ym mis Rhagfyr 2018, ddylai benderfynu a ddylid bwrw ymlaen â phrosiect coridor arfaethedig yr M4 o gwmpas Casnewydd, yn amodol ar ganfyddiadau'r ymchwiliad cyhoeddus lleol.

 

NDM6881 - Dadl y Cynulliad

Wedi’i gyflwyno ar 21/11/2018 | I'w drafod ar 28/11/2018

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn  nodi’r rhan hanfodol y mae cynllun y taliad sylfaenol yn ei chwarae ar hyn o bryd fel sylfaen i hyfywedd y fferm deuluol Gymreig, cymunedau gwledig ac economi ehangach Cymru, a phwysigrwydd taliadau uniongyrchol o ran rhoi sefydlogrwydd mewn cyfnodau o ansicrwydd.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau fod cefnogaeth i ffermio yng Nghymru yn cael ei thargedu at y ffermwyr gweithredol hynny sy’n cymryd y risg ariannol sy’n gysylltiedig â chynhyrchu bwyd.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gadw elfen o daliadau uniongyrchol ar gyfer ffermwyr wedi Brexit.
 

 

Gwelliannau

NDM6881 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 23/11/2018

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod o dan y Polisi Amaethyddol Cyffredin, ac yn ystod aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd, fod nifer y ffermwyr a cynhyrchiant ffermydd wedi gostwng yng Nghymru. 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio'r pwerau newydd a fydd yn deillio o'r DU yn ymadael â'r UE i greu cynllun cymorth ffermio a gwledig sy'n gwasanaethu anghenion unigryw yr economi wledig ac amaethyddol yng Nghymru.

NDM6881 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 23/11/2018

Dileu’r cyfan a rhoi’r canlynol yn ei le:

1.  Yn nodi penderfyniad y DU i ymadael â’r UE ym mis Mawrth 2019, gan gynnwys y Polisi Amaethyddol Cyffredin a’i system o gymorth i ffermydd, gan gynnwys Cynllun y Taliad Sylfaenol.

2. Yn cefnogi:

a. addewid Llywodraeth Cymru i barhau i gefnogi ffermwyr er mwyn eu cadw ar y tir a gwarchod ein cymunedau;

b. nod Llywodraeth Cymru i ddylunio’r system orau ar gyfer rhoi cymorth i ffermydd yng Nghymru, a nodwyd yn yr ymgynghoriad diweddar ar Brexit a’n Tir, gan gynnwys buddsoddiad ar gyfer cynhyrchu bwyd a chefnogaeth ar gyfer nwyddau cyhoeddus; and

c.  gwarant Llywodraeth Cymru na fydd unrhyw newidiadau’n cael eu gwneud i gymhorthdal incwm heb ymgynghori ymhellach, na fydd unrhyw gynlluniau newydd yn cael eu dylunio heb asesiad priodol o’u heffaith, ac na fydd unrhyw hen gynlluniau’n cael eu dileu cyn y bydd cynlluniau newydd yn barod.

3.  Yn galw ar Lywodraeth y DU i gadarnhau ar fyrder na fydd Cymru yn colli ceiniog o gyllid ar gyfer ffermio o ganlyniad i ymadael â’r UE.

4.  Yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i gadw Cynllun y Taliad Sylfaenol fel rhan o gyfnod pontio a fydd yn para sawl blwyddyn.

Ymgynghori: Brexit a’n Tir

 

NDM6882 - Dadl Fer

Wedi’i gyflwyno ar 21/11/2018 | I'w drafod ar 28/11/2018

Parcffordd Abertawe: y camau nesaf ar gyfer Dinas Ranbarth Bae Abertawe?