Cynigion i’w trafod ar 27/06/2018
NDM6671 - Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod
Wedi’i gyflwyno ar 26/02/2018 | I'w drafod ar 27/06/2018Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i:
a) rhoi terfyn ar adeiladu tai lesddaliad preswyl yng Nghymru; a
b) gwella ymwybyddiaeth defnyddwyr o oblygiadau deiliadaeth lesddaliad.
2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:
a) gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol yng Nghymru i wrthod pob cais cynllunio ar gyfer datblygiadau tai lesddaliad preswyl; a
b) gosod dyletswydd ar asiantwyr gwerthu a rheoli i ddarparu gwybodaeth am oblygiadau cytundebau lesddaliad i ddarpar brynwyr eiddo lesddaliad sy'n bodoli eisoes.
Cyflwynwyd gan
NDM6747 - Cynnig ar gyfer dadl gan Bwyllgor
Wedi’i gyflwyno ar 20/06/2018 | I'w drafod ar 27/06/2018Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar ddeiseb P-04-472, 'Gwnewch y Nodyn Cyngor Technegol Mwynau yn ddeddf a Deiseb P04-575 Galw i Mewn Pob Cais Cynllunio ar Gyfer Cloddio Glo Brig - Crynodeb o’r ystyriaeth', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Ebrill 2018.
Cyflwynwyd gan
NDM6749 - Dadl Fer
Wedi’i gyflwyno ar 20/06/2018 | I'w drafod ar 27/06/2018Bagloriaeth Cymru: Addysg ynteu orfodaeth?
Cyflwynwyd gan
NDM6750 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Wedi’i gyflwyno ar 20/06/2018 | I'w drafod ar 27/06/2018Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r adroddiad, ‘Potensial hydrogen yn y datgarboneiddio o drafnidiaeth yng Nghymru’, a gyhoeddwyd gan Simon Thomas AC.
2. Yn nodi bwriad datganedig Llywodraeth Cymru i adeiladu ar sgiliau ac arbenigedd i arwain y Deyrnas Gyfunol mewn ymchwil a datblygiad a buddsoddiad yn hydrogen.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i drafod gyda busnesau, ymchwilwyr a chyrff i gynnal digwyddiad allweddol i gyfleu uchelgais Cymru mewn perthynas â’r economi hydrogen i gynulleidfa fyd-eang ac fel sbardun i ddatblygu strategaeth economi hydrogen gynhwysfawr.
Potensial Hydrogen yn y Datgarboneiddio o Drafnidiaeth yng Nghymru
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i sicrhau bod unrhyw fathau o ynni amgen y maent yn archwilio iddynt yn bodloni'r profion fforddiadwyedd, sy'n cynnwys peidio â gosod gormod o faich ar drethdalwyr.
Cyflwynwyd gan
Ym mhwynt 1, ar ôl 'Simon Thomas AC', mewnosoder:
', ac yn nodi ymhellach:
a) potensial hydrogen fel ffurf amgen o danwydd;
b) pwysigrwydd tanwydd hydrogen i arallgyfeirio ein portffolio ynni;
c) y gwahaniaeth pwysig rhwng tanwydd hydrogen gwyrdd a brown;
d) bod tanwydd hydrogen gwyrdd dim ond yn ddichonadwy fel sgil-gynnyrch o gynhyrchu gormodedd o drydan, ac felly dylid cydnabod ei gyfyngiadau; ac
e) bod angen i Lywodraeth Cymru wneud gwelliannau i seilwaith y grid yng Nghymru er mwyn sicrhau y gellir defnyddio trydan a hydrogen fel dewisiadau gwyrdd amgen yn lle tanwyddau ffosil.'
Cyflwynwyd gan
Dileu pwyntiau 2 a 3 a rhoi’r pwyntiau a ganlyn yn eu lle:
Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fynd ati drwy’r Cynllun Gweithredu newydd ar yr Economi i ddatgarboneiddio modelau busnes traddodiadol, gwasanaethau cyhoeddus a seilwaith yng Nghymru a symud ymlaen at ddyfodol carbon isel mewn ffordd a all helpu’n heconomi i arallgyfeirio ac i dyfu.
Yn nodi gwaith Llywodraeth Cymru i ddatgarboneiddio rhwydwaith trafnidiaeth Cymru, gan gynnwys yr ymrwymiad diweddar i sicrhau gostyngiad o 25 y cant mewn allyriadau ar draws rhwydwaith rheilffordd Cymru a’r Gororau erbyn 2023.
Yn nodi bod yn rhaid i waith i ddatgarboneiddio system drafnidiaeth Cymru fod yn eang ei sail, a bod angen gwneud gwaith ymchwil a datblygu creadigol ar atebion eraill o ran seilwaith ac ar draws amrywiaeth o danwyddau arloesol a systemau tyniant, gan gynnwys hydrogen.
Cyflwynwyd gan
NDM6751 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Wedi’i gyflwyno ar 20/06/2018 | I'w drafod ar 27/06/2018Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r cynnydd yn nifer yr achosion o ganserau'r pen a'r gwddf ymhlith dynion.
2. Yn nodi'r dystiolaeth o effeithiolrwydd y brechiad HPV o ran diogelu rhag y mathau hyn o ganser.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymestyn ei rhaglen brechu HPV i'r holl fechgyn yn eu glasoed.
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
3. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn aros am gyngor gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ynghylch a ddylid ymestyn y rhaglen frechu HPV i gynnwys bechgyn yn eu harddegau.
Cyflwynwyd gan
NDM6754 - Dadl y Cynulliad
Wedi’i gyflwyno ar 26/06/2018 | I'w drafod ar 27/06/2018Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i), 12.22(i) a'r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM6753 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher, 27 Mehefin 2018.