Cynigion i’w trafod ar 25/06/2025
NDM8916 - Dadl Aelodau
Wedi’i gyflwyno ar 03/06/2025 | I'w drafod ar 25/06/2025Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi rôl hanfodol gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd wrth gynnal poblogaeth iach yn galluogi pobl i fod yn gymdeithasol ac yn economaidd weithgar.
2. Yn mynegi pryder am:
a) prinderau gweithlu yn y proffesiynau perthynol i iechyd;
b) proffil heneiddiol y gweithlu gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd; ac
c) angen cynyddol y boblogaeth i gael cymorth gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) datblygu strategaeth gweithlu tymor hir i weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd;
b) cynyddu lleoliadau myfyrwyr i weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd; ac
c) cynyddu llwybrau i gymwysterau yng Nghymru er mwyn ateb galw cynyddol.
Cyflwynwyd gan
NDM8935 - Cynnig ar gyfer dadl gan Bwyllgor
Wedi’i gyflwyno ar 18/06/2025 | I'w drafod ar 25/06/2025Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad ac adroddiad atodol y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar Benodiadau Cyhoeddus a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Mawrth 2025.
Sylwer: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mehefin 2025.
Cyflwynwyd gan
NDM8936 - Dadl Fer
Datganodd yr Aelod fuddiant Wedi’i gyflwyno ar 18/06/2025 | I'w drafod ar 25/06/2025Cydraddoldeb o ran mynediad a pharch ar gyfer gwasanaethau dibyniaeth yng Nghymru
Cyflwynwyd gan
NDM8938 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Wedi’i gyflwyno ar 18/06/2025 | I'w drafod ar 25/06/2025Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu bod model cyllido presennol Cymru, yn seiliedig ar Fformiwla Barnett, wedi dyddio ac yn annheg.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud yr achos i Lywodraeth y DU dros ddisodli Fformiwla Barnett a rhoi setliad newydd o gyllido teg i Gymru yn ei le.
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gychwyn adolygiad o fframwaith cyllidol Cymru.