Cynigion a gyflwynwyd ar 24/11/2022
NNDM8153 - Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod
Wedi’i gyflwyno ar 24/11/2022Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil a fyddai'n helpu i sicrhau bod galluoedd storio carbon y cefnfor yn cael eu gwireddu fel rhan o'r targed o ddod yn sero-net erbyn 2050.
2. Yn nodi mai pwrpas y Bil hwn fyddai:
a) gosod targedau ar gyfer gwrthdroi'r ffaith bod 92 y cant o forwellt y DU wedi diflannu yn ystod y ganrif ddiwethaf;
b) creu dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i gynllunio, gweithredu, a chynnal cynllun adfer carbon glas cenedlaethol i Gymru
c) adeiladu ar y ffaith bod o leiaf 113 miliwn tunnell o garbon glas eisoes wedi'i storio yn ein moroedd;
d) cryfhau'r prosesau ar gyfer rheoli a diogelu ardaloedd morol gwarchodedig.