Cynigion i’w trafod ar 24/09/2025
NDM8966 - Dadl Fer
Wedi’i gyflwyno ar 20/08/2025 | I'w drafod ar 24/09/2025Sicrhau gofal hosbis yng Nghymru ar gyfer y dyfodol
Cyflwynwyd gan
NDM8982 - Cynnig ar gyfer dadl gan Bwyllgor
Wedi’i gyflwyno ar 17/09/2025 | I'w drafod ar 24/09/2025Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi’r ddeiseb ‘P-06-1494 Llywodraeth Cymru i ddiogelu cyllid mewn addysg rhag toriadau Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol’ a gasglodd 11,040 o lofnodion.
Cyflwynwyd gan
NDM8983 - Cynnig ar gyfer dadl gan Bwyllgor
Wedi’i gyflwyno ar 17/09/2025 | I'w drafod ar 24/09/2025Cynnig bod y Senedd yn nodi:
Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, ‘Deallusrwydd Artiffisial ac Economi Cymru: A all androidau Cymru freuddwydio am ddefaid trydan?’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Mai 2025, ac y gosodwyd ymateb iddo gan Lywodraeth Cymru ar 16 Medi 2025.
Cyflwynwyd gan
NDM8984 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Wedi’i gyflwyno ar 17/09/2025 | I'w drafod ar 24/09/2025Cynnig bod y Senedd:
1. Yn ailddatgan y dylai GIG Cymru barhau i fod am ddim yn y man darparu a chael ei ariannu ag arian cyhoeddus, ac na ddylai gael ei ddisodli gan system sy'n seiliedig ar yswiriant.
2. Yn gresynu, ers etholiad y Senedd 2021 a Chytundeb Cydweithio Llywodraeth Cymru â Phlaid Cymru:
a) bod dros 38,000 o bobl Cymru wedi marw tra'n aros am driniaeth y GIG; a
b) bod cyfanswm llwybrau cleifion wedi cynyddu tua traean.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i atal rhagor o farwolaethau diangen drwy:
a) datgan argyfwng iechyd i gyfeirio adnoddau a chyfarpar Llywodraeth Cymru tuag at dorri rhestrau aros y GIG;
b) gwarantu uchafswm o flwyddyn i aros am driniaethau;
c) cyflwyno gwarant o saith diwrnod o aros am apwyntiad meddyg teulu;
d) cynnal cynllun cynhwysfawr o recriwtio a chadw ar gyfer GIG Cymru;
e) adeiladu rhagor o ganolfannau llawfeddygol ac ehangu canolfannau diagnostig cyflym;
f) adfer dewis y claf o ran lle y gall gael mynediad at ofal iechyd; a
g) lansio cynllun gweithredu ar gyfer canser.
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn gresynu at:
a) polisïau llywodraethau olynol San Steffan sydd wedi agor y drws i breifateiddio yn y GIG, gan gynnwys y fenter cyllid preifat;
b) methiant Llywodraeth Geidwadol flaenorol y DU a Llywodraeth Lafur bresennol y DU i ddarparu setliad ariannu teg i Gymru sy'n adlewyrchu ei hanghenion iechyd a gofal cymdeithasol;
c) polisïau llymder Llywodraeth Geidwadol flaenorol y DU, a gyfrannodd yn uniongyrchol at farwolaethau ychwanegol yng Nghymru a chanlyniadau iechyd sy’n gwaethygu; a
d) y safonau dwbl gan Lywodraeth Geidwadol flaenorol y DU o ran cydymffurfio â rheoliadau COVID a erydodd ymddiriedaeth mewn mesurau iechyd y cyhoedd.
Yn gresynu ymhellach bod cyfanswm llwybrau cleifion wedi cynyddu tua thraean ers etholiad y Senedd yn 2021.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i atal mwy o farwolaethau diangen drwy:
a) datgan argyfwng iechyd; a
b) gweithredu cynllun Plaid Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2025, i fynd i'r afael â rhestrau aros.
Cyflwynwyd gan
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn croesawu'r cyllid ychwanegol o £120 miliwn i ddileu'r holl amseroedd aros o ddwy flynedd a lleihau maint cyffredinol y rhestr aros erbyn diwedd mis Mawrth 2026.
Yn croesawu camau i atal mwy o farwolaethau canser drwy lansio rhaglen genedlaethol wedi’i thargedu ar gyfer sgrinio canser yr ysgyfaint yng Nghymru a chynyddu mynediad at y rhaglen sgrinio canser y coluddyn.
Yn nodi:
a) bod amseroedd aros hir o fwy na dwy flynedd am driniaeth bellach 88.6 y cant yn is na'r brig ym mis Mawrth 2022; ac
b) mai ychydig dros 21 wythnos yw’r amser aros cyfartalog am driniaeth.
Cyflwynwyd gan
NDM8986 - Cynnig ar gyfer dadl gan Bwyllgor
Wedi’i gyflwyno ar 17/09/2025 | I'w drafod ar 24/09/2025Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Craffu blynyddol: Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru 2024, a osodwyd ar 24 Ebrill 2025.
Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Medi 2025. Ymatebodd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru ar 8 Mai 2025.