Cynigion i’w trafod ar 24/04/2024
NDM8504 - Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod
Wedi’i gyflwyno ar 28/02/2024 | I'w drafod ar 24/04/2024Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil a fyddai’n gwneud darpariaethau ar gyfer targedau i atgyfnerthu diogeledd bwyd yng Nghymru.
2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai creu dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i bennu targedau i wella diogeledd bwyd yng Nghymru.
Cyflwynwyd gan
NDM8540 - Dadl Fer
Wedi’i gyflwyno ar 15/04/2024 | I'w drafod ar 24/04/2024Gofal sylfaenol a'r agenda ataliol.
Cyflwynwyd gan
NDM8544 - Cynnig ar gyfer dadl gan Bwyllgor
Wedi’i gyflwyno ar 17/04/2024 | I'w drafod ar 24/04/2024Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Adroddiad ar berfformiad Dŵr Cymru, a osodwyd ar 8 Chwefror 2024.
Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Ebrill 2024. Ymatebodd Ofwat (Saesneg yn unig) a Cyfoeth Naturiol Cymru ar 20 Mawrth 2024 ac ymatebodd Dŵr Cymru Welsh Water ar 28 Mawrth 2024.
Cyflwynwyd gan
NDM8545 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Wedi’i gyflwyno ar 17/04/2024 | I'w drafod ar 24/04/2024Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi'r adroddiad Major Challenges for Education in Wales a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid a amlygodd:
a) bod sgoriau PISA wedi gostwng mwy yng Nghymru nag yn y mwyafrif o wledydd eraill yn 2022;
b) mai deilliannau addysgol ôl-16 yng Nghymru yw'r gwaethaf yn y DU;
c) bod disgyblion yng Nghymru dim ond yn perfformio cystal â phlant difreintiedig yn Lloegr;
d) bod yr esboniad am berfformiad addysgol is yng Nghymru yn debygol o adlewyrchu polisi a dull gweithredu Llywodraeth Cymru; ac
e) bod y cwricwlwm newydd i Gymru a diwygiadau Llywodraeth Cymru yn peri risg o ehangu anghydraddoldebau, cynyddu llwyth gwaith athrawon, a chyfyngu ar gyfleoedd addysg yn y dyfodol.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) comisiynu adolygiad annibynnol i'r diwygiadau addysg presennol sy'n cael eu cyflwyno;
b) blaenoriaethu addysg plant drwy gael 5,000 yn fwy o athrawon yn ôl i ystafelloedd dosbarth;
c) sicrhau bod y rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael y cymorth cywir yn gynt; a
d) cyflwyno academïau ac ysgolion rhydd.
Adroddiad Major Challenges for Education in Wales a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid (Saesneg yn unig)
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Dileu is-bwynt 2d)
Cyflwynwyd gan
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn croesawu ymrwymiad y Prif Weinidog i welliant parhaus mewn cyrhaeddiad addysgol fel prif flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.
2. Yn cefnogi gwaith Llywodraeth Cymru i gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru a gweithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru).
3. Yn mynegi diolch i'r gweithlu addysg am eu gwaith caled parhaus drwy gydol y flwyddyn.
4. Yn nodi, er gwaethaf camreolaeth Llywodraeth y DU o'n cyllid cyhoeddus, bod Llywodraeth Cymru wedi diogelu’r cyllid sydd ar gael i ysgolion trwy'r setliad llywodraeth leol a chyllid grant.