Cynigion i’w trafod ar 23/11/2022

NDM8130 - Dadl Aelodau

Wedi’i gyflwyno ar 10/11/2022 | I'w drafod ar 23/11/2022

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) cyhoeddi adroddiad Gyda'n Gilydd drwy Adegau Anodd gan MIND Cymru;

b) bod gwytnwch cymunedol yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl da.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) gweithio gyda'r sector gwirfoddol a chymunedol i adeiladu cymunedau gwydn drwy:

(i) hyrwyddo cyfalaf cymdeithasol;

(ii) buddsoddi mewn asedau cymunedol;

(iii) mynd i'r afael â rhwystrau sy'n wynebu rhai grwpiau;

b) cynnwys y rôl a chwaraeir gan asedau a rhwydweithiau cymunedol mewn unrhyw strategaeth iechyd meddwl yn y dyfodol.

Gyda'n Gilydd drwy Adegau Anodd

 

NDM8136 - Cynnig ar gyfer dadl gan Bwyllgor

Wedi’i gyflwyno ar 16/11/2022 | I'w drafod ar 23/11/2022

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Chweched Adroddiad i'r Chweched Senedd a osodwyd gerbron y Senedd ar 16 Tachwedd 2022 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9

2. Yn cymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad.

 

NDM8137 - Dadl y Senedd

Wedi’i gyflwyno ar 16/11/2022 | I'w drafod ar 23/11/2022

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16:

Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2023-24, fel y pennir yn Nhabl 1 o Gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2023-24, a osodwyd gerbron y Senedd ar 9 Tachwedd 2022, a’i bod yn cael ei hymgorffori yn y Cynnig Cyllidebol Blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii).

Cyflwynwyd gan

 

NDM8138 - Dadl Fer

Wedi’i gyflwyno ar 16/11/2022 | I'w drafod ar 23/11/2022

Mewn undod mae nerth: mentrau cymdeithasol a busnesau dan berchnogaeth cymunedau yng Nghymru

 

NDM8139 - Cynnig ar gyfer dadl gan Bwyllgor

Wedi’i gyflwyno ar 16/11/2022 | I'w drafod ar 23/11/2022

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, 'Darparu safleoedd ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Awst 2022.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Tachwedd 2022.

 

NDM8140 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 16/11/2022 | I'w drafod ar 23/11/2022

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu bod nyrsys Cymru yn haeddu tâl teg am eu gwaith hanfodol o ran cadw ein cymunedau'n ddiogel ac yn iach.   

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio pob ysgogiad datganoledig sydd ar gael iddi er mwyn gwneud cynnig tâl gwell i nyrsys y GIG yng Nghymru.  

Cyflwynwyd gan

Gwelliannau

NDM8140 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 18/11/2022

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyfarfod â Choleg Nyrsio Brenhinol Cymru i drafod ei ymgyrch ar gyfer cyflog teg a staffio diogel i osgoi streicio y gaeaf hwn.  

NDM8140 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 18/11/2022

Dileu pwynt 2