Cynigion i’w trafod ar 23/09/2020

NDM7377 - Dadl Fer

Wedi’i gyflwyno ar 14/09/2020 | I'w drafod ar 23/09/2020

Adeiladu'r sylfeini ar gyfer newid: effaith Cynllun Cyflawni ar gyfer Cyflyrau Niwrolegol Llywodraeth Cymru

 

NDM7385 - Cynnig ar gyfer dadl gan Bwyllgor

Wedi’i gyflwyno ar 16/09/2020 | I'w drafod ar 23/09/2020

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar effaith amrywiadau mewn treth incwm genedlaethol ac is-genedlaethol, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Gorffennaf 2020.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Medi 2020.

 

NDM7386 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 16/09/2020 | I'w drafod ar 23/09/2020

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod yr argyfwng tai sy’n bodoli mewn sawl cymuned yng Nghymru ac yn cydnabod yn benodol effaith andwyol lefelau anghynaladwy ail gartrefi sy’n arwain at amddifadu pobl leol rhag gallu cael cartref yn y cymunedau hynny.

2. Yn croesawu’r camau y mae rhai awdurdodau lleol wedi’u cymryd yn sgil darpariaethau Deddf Tai (Cymru) 2014 i gyflwyno premiwm treth gyngor ar ail gartrefi fel un dull o geisio newid ymddygiad ynghylch defnydd ail gartrefi ac i hwyluso cyflwyno mesurau i ddiwallu’r angen lleol am dai, ond yn cytuno bod rhaid wrth ymyrraeth ac arweiniad o’r newydd ar lefel genedlaethol erbyn hyn.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu yn ddi-oed i ddatblygu a chyflwyno pecyn o fesurau fyddai’n cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:

a) defnyddio’r gyfundrefn gynllunio i reoli’r gallu i newid defnydd tŷ annedd o fod yn brif gartref i fod yn ail gartref;

b) galluogi cyflwyno cap ar y gyfran o’r holl stoc tai mewn cymuned y gellid eu defnyddio fel ail gartrefi mewn cymunedau lle mae’r crynodiad o ail gartrefi eisoes yn anghynaladwy;

c) diweddaru’r gyfraith sy’n golygu nad oes rhaid talu’r un geiniog o dreth gyngor ar rai ail gartrefi fel mae pethau’n sefyll ar hyn o bryd;

d) dyblu uchafswm premiwm y dreth gyngor y gellid ei godi ar ail gartrefi i o leiaf 200 y cant i atgyfnerthu’r gwaith sydd eisoes yn digwydd mewn rhai awdurdodau lleol i geisio newid ymddygiad o gwmpas defnyddio ail gartrefi, codi refeniw i’w fuddsoddi mewn tai cymdeithasol ac i ddigolledu cymunedau am sgileffeithiau andwyol gorddefnydd ail gartrefi ar gymunedau a gwasanaethau lleol;

e) dyblu cyfradd uwch y dreth trafodiadau tir ar unwaith am gyfnod cychwynnol o chwe mis i geisio atal prisiau tai rhag mynd ymhellach o gyrraedd y boblogaeth leol a’r rhai sy’n prynu am y tro cyntaf mewn nifer o gymunedau;

f) cymryd camau cadarnhaol i hwyluso mynediad at dai am bris sydd o fewn cyrraedd y farchnad leol, gan gynnwys y posibilrwydd o annog datblygu tai gydag amod lleol arnynt;

g) annog a rhoi blaenoriaeth i awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i brynu tai gwag i’w datblygu er mwyn diwallu’r angen lleol am dai cymdeithasol; a

h) edrych o’r newydd ar y diffiniad o dŷ fforddiadwy.

Deddf Tai (Cymru) 2014

Cyflwynwyd gan

Gwelliannau

NDM7386 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2020

Yn is-bwynt 3(g), ar ôl 'chymdeithasau tai' ychwanegu:

', drwy brynu gorfodol os oes angen,'

NDM7386 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2020

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod yr argyfwng tai sy’n bodoli mewn sawl cymuned yng Nghymru a'r angen i alluogi pobl leol i gael mynediad i gartrefi yn y cymunedau hynny. 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu yn ddi-oed i ddatblygu a chyflwyno pecyn o fesurau fyddai’n cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:

a) cymryd camau cadarnhaol i hwyluso mynediad at dai ar bris sydd o fewn cyrraedd pobl leol, gan gynnwys ailgyflwyno hawl i brynu wed'i  diwygio ac archwilio'r opsiynau ar gyfer annog datblygu tai gydag amod lleol arnynt;

b) annog a rhoi blaenoriaeth i awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i brynu tai gwag i’w datblygu er mwyn diwallu’r angen lleol am dai cymdeithasol; ac

c) egluro beth yw cartref fforddiadwy.  

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r sector twristiaeth ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio i sefydlu sylfaen dystiolaeth ar gyfer polisi ynghylch cymhwysedd i gofnodi llety hunanarlwyo ar y rhestr ardrethu annomestig.  

NDM7386 - 3 | Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2020

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod her ail gartrefi - a thai gwag - i'r cyflenwad o dai fforddiadwy mewn rhai cymunedau yng Nghymru.   

2. Yn croesawu ymrwymiad hirsefydlog Llywodraeth Cymru i ddarparu tai fforddiadwy o ansawdd uchel, gan gydnabod eu rôl hanfodol fel sylfaen i gymunedau cynaliadwy cryf. 

3. Yn croesawu, er bod y pandemig wedi cael effaith ar adeiladu tai fforddiadwy, y bydd Llywodraeth Cymru'n cyrraedd y targed o 20,000 erbyn diwedd tymor y Senedd hon, a fydd yn helpu i ddiwallu'r angen am dai lleol.

4. Yn nodi mai Cymru yw'r unig wlad yn y DU lle mae awdurdodau lleol yn gallu codi premiwm o hyd at 100 y cant o gyfradd safonol y dreth gyngor ar ail gartrefi ac eiddo sydd wedi bod yn wag am gyfnod hir.

5. Yn nodi ymhellach na wnaeth Llywodraeth Cymru ddarparu gostyngiad treth dros dro yng Nghymru, yn wahanol i weddill y DU, i fuddsoddwyr prynu i osod, buddsoddwyr mewn llety gwyliau na phrynwyr ail gartrefi.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad trylwyr o berchnogaeth ail gartrefi yng Nghymru a'r mesurau a allai fod yn angenrheidiol i sicrhau bod anghenion unigolion, cymunedau a'r economi, yn enwedig yr economi ymwelwyr, yn cael eu cydbwyso. Dylai adolygiad o'r fath ystyried rôl trethiant, cynllunio, rheoleiddio lleol ynghyd â'r cyflenwad o dai fforddiadwy o bob math a mynediad atynt.

Cyflwynwyd gan

 

NDM7387 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 16/09/2020 | I'w drafod ar 23/09/2020

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi pwysigrwydd addysg uwch ac addysg bellach i Gymru a'i heconomi.

2. Yn credu bod myfyrwyr yn haeddu gwerth am arian yn gyfnewid am y buddsoddiad a wnânt yn eu haddysg uwch ac addysg bellach.

3. Yn gresynu at effaith pandemig y coronafeirws ar fyfyrwyr yng Nghymru a sut y tarfwyd ar gyrsiau.

4. Yn croesawu'r adnoddau ariannol ychwanegol a ddarparwyd i golegau a phrifysgolion Cymru i'w cefnogi drwy'r pandemig.

5. Yn nodi na fu gostyngiad yn y ffioedd a delir gan fyfyrwyr i adlewyrchu effaith andwyol y pandemig ar eu hastudiaethau.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) gweithio gyda cholegau a phrifysgolion i sicrhau bod ffioedd yn adlewyrchu effaith pandemig y coronafeirws ar eu cyrsiau;

b) sicrhau bod myfyrwyr yn manteisio ar y cyfle i gael mynediad at ddysgu naill drwy fod yn bresennol neu, os bydd cyfyngiadau COVID-19 na ellir eu hosgoi, drwy fwy o ffrydio byw; ac

c) mynd i'r afael â phryderon myfyrwyr, cyflogwyr a darparwyr addysg bellach ac addysg uwch mewn perthynas â lleihau maes llafur rhai cyrsiau sy'n cyfrannu at ofynion mynediad ar gyfer colegau a phrifysgolion.

Gwelliannau

NDM7387 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 17/09/2020

Dileu pwynt 4 ac ailrifo'n unol â hynny.  

Cyflwynwyd gan

NDM7387 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 17/09/2020

Dileu is-bwynt 6(a) a rhoi yn ei le:

sicrhau bod gan y sector addysg uwch ddigon o adnoddau i alluogi sefydliadau i barhau i gynnal safonau a pharhau i ehangu mynediad;

Cyflwynwyd gan

NDM7387 - 3 | Wedi’i gyflwyno ar 17/09/2020

Cynnwys is-bwynt 6(b) newydd ac ailrifo'n unol â hynny:

gweithio gyda'r sectorau addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith i sicrhau bod ganddynt adnoddau digonol a chynaliadwy i ddarparu'r cyfleoedd dysgu gorau posibl, yn enwedig i ddysgwyr difreintiedig, ar yr adeg heriol hon;

Cyflwynwyd gan

NDM7387 - 4 | Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2020

Dileu pwyntiau 5 a 6 a rhoi yn eu lle:

Yn croesawu ymdrechion myfyrwyr, colegau a phrifysgolion i barhau i weithredu’n ddiogel ac yn effeithiol mewn amgylchiadau heriol dros y tymor nesaf, ac yn diolch iddynt am eu hymdrechion.

Yn nodi gwaith helaeth colegau a phrifysgolion i gynnal cyfleoedd dysgu, naill ai wyneb yn wyneb neu, lle nad oedd modd osgoi cyfyngiadau COVID-19, drwy wersi, asesu a chymorth ar-lein.

Yn nodi’r canllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi darparwyr addysg uwch a phellach i baratoi ar gyfer y tymor newydd ac agor campysau yn ddiogel.

Canllawiau ar weithredu’n ddiogel mewn addysg ôl-16 o fis Medi 2020 ymlaen

Canllawiau ar addysg uwch: Diogelu Cymru (COVID-19)

Cyflwynwyd gan

 

NDM7388 - Cynnig ar gyfer dadl gan Bwyllgor

Wedi’i gyflwyno ar 16/09/2020 | I'w drafod ar 23/09/2020

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Goruchwylio'r Comisiwn Etholiadol’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Medi 2020;

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiad B o adroddiad y Pwyllgor Busnes; a

3. Yn nodi bod y cynnig hwn yn dod i rym pan fydd adran 28 o Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 yn cael ei chychwyn drwy orchymyn a wneir o dan Adran 42 (3) (b) o Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020.

 

NDM7389 - Cynnig ar gyfer dadl gan Bwyllgor

Wedi’i gyflwyno ar 16/09/2020 | I'w drafod ar 23/09/2020

Cynnig bod Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.3:

1. Yn sefydlu Pwyllgor y Llywydd i gyflawni’r swyddogaethau a nodir yn Rheol Sefydlog 18.B2; ac

2. Yn nodi bod y cynnig hwn yn dod i rym pan fydd adran 28 o Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 yn cael ei chychwyn drwy orchymyn a wneir o dan Adran 42 (3) (b) o Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020.

 

NDM7390 - Dadl y Senedd

Wedi’i gyflwyno ar 22/09/2020 | I'w drafod ar 23/09/2020

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Caroline Jones (Annibynnol) yn aelod o’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.

 

NDM7391 - Dadl y Senedd

Wedi’i gyflwyno ar 22/09/2020 | I'w drafod ar 23/09/2020

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3 a Rheol Sefydlog 18B.4:

1. Yn ethol y canlynol fel aelodau o Bwyllgor y Llywydd:

a) Y Dirprwy Lywydd fel Cadeirydd y Pwyllgor;

b) Llyr Gruffydd, (cadeirydd y pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 19); a

c) Rhianon Passmore (Llafur Cymru), Suzy Davies (Ceidwadwyr Cymreig), Dai Lloyd (Plaid Cymru), a David Rowlands (Plaid Brexit).

2. Yn nodi bod y cynnig hwn yn dod i rym pan fydd adran 28 o Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 yn cael ei chychwyn drwy orchymyn a wneir o dan Adran 42 (3) (b) o Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020.

Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020.