Cynigion i’w trafod ar 18/04/2018
NDM6697 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Wedi’i gyflwyno ar 14/03/2018 | I'w drafod ar 18/04/2018Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi ac yn croesawu ymgyrch y grŵp Women Against State Pension Inequality (WASPI) i gael trefniadau pensiwn gwladol trosiannol teg ar gyfer yr holl fenywod a anwyd yn y 1950au y mae newidiadau i ddeddfwriaeth pensiwn y wladwriaeth yn effeithio arnynt.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i ddarparu'r hyn a ganlyn i'r holl fenywod a anwyd yn y 1950au y mae newidiadau i ddeddfwriaeth pensiwn y wladwriaeth yn effeithio arnynt:
a) pensiwn pontio sy'n cyflenwi incwm hyd at oedran pensiwn y wladwriaeth, nad yw'n ddarostyngedig i brawf modd;
b) iawndal am absenoldeb pensiwn pontio i'r rhai sydd eisoes wedi cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth;
c) iawndal i bawb sydd heb ddechrau cael pensiwn pontio erbyn dyddiad priodol, a fyddai'n ddigon i adennill llog ariannol a gollwyd; a
d) iawndal i fuddiolwyr ystadau'r rhai sydd wedi marw a heb gael pensiwn pontio.
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn gresynu at ddiffyg gweithredu Llywodraeth y DU i roi terfyn ar yr anghyfiawnder a ddioddefir gan fenywod y mae’r newidiadau i ddeddfwriaeth pensiwn y wladwriaeth yn effeithio arnynt.
Cyflwynwyd gan
Ym mhwynt 2, dileu “weithio gyda” a rhoi “annog” yn ei le.
Cyflwynwyd gan
NDM6701 - Dadl Fer
Wedi’i gyflwyno ar 11/04/2018 | I'w drafod ar 18/04/2018Sepsis – y cameleon
Beth yw sepsis, sut yr ydym yn adnabod y symptomau, sut yr ydym yn ei drin, a beth y gallwn ei wneud i arbed mwy o fywydau?
Cyflwynwyd gan
NDM6702 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Wedi’i gyflwyno ar 11/04/2018 | I'w drafod ar 18/04/2018Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r llythyr gan yr Ysgrifennydd Parhaol, dyddiedig 16 Mawrth, mewn perthynas â chynnig NDM6668 y cytunwyd arno gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 28 Chwefror 2018.
2. Yn gresynu at fethiant yr Ysgrifennydd Parhaol i gydymffurfio â dymuniadau Aelodau'r Cynulliad.
3. Gan weithredu yn unol ag Adran 37(1)(b) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, yn ei gwneud yn ofynnol bod Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru yn paratoi, at ddibenion y Cynulliad, gyda golygiadau priodol i sicrhau bod tystion yn aros yn anhysbys, adroddiad yr ymchwiliad ynghylch a oedd unrhyw dystiolaeth y rhannodd Llywodraeth Cymru wybodaeth o flaen llaw heb ganiatâd mewn perthynas â'r ad-drefnu Gweinidogol diweddar.
ITV Cymru - Leak inquiry clears First Minister - 25 Ionawr 2018 (Saesneg yn unig)
Wales Online - Outside the headlines: Politics updates from Cardiff Bay, Westminster and our town halls - 25 Ionawr 2018 (Saesneg yn unig)
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Dileu popeth ar ôl pwynt 1.
Cyflwynwyd gan
NDM6703 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Wedi’i gyflwyno ar 11/04/2018 | I'w drafod ar 18/04/2018Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r argyfwng cynyddol o ran recriwtio athrawon mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru.
2. Yn gresynu at y ffaith nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud digon hyd yma i fynd i'r afael ag achosion hyn.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Chyngor y Gweithlu Addysg i ddatblygu cynllun gweithlu ysgolion cenedlaethol i Gymru, er mwyn:
a) dileu rhwystrau diangen i recriwtio athrawon a hyfforddwyd dramor;
b) cydnabod sgiliau athrawon profiadol a llwyddiannus sy'n gweithio mewn colegau addysg bellach, ac mewn ysgolion annibynnol a cholegau, drwy roi statws athrawon cymwysedig iddynt; ac
c) sefydlu llwybrau i addysgu ar gyfer cynorthwywyr cymorth addysgu profiadol yng Nghymru.
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 1:
Yn nodi ffigyrau National Education Union Cymru sy’n dangos bod dros 50,000 y flwyddyn o ddyddiau gwaith yn cael eu colli gan athrawon oherwydd salwch sy’n ymwneud a straen a bod 33.6 y cant o’r athrawon ysgol a wnaeth ymateb i arolwg gweithlu addysg cenedlaethol Cyngor y Gweithlu Addysg yn bwriadu gadael eu proffesiwn yn ystod y tair blynedd nesaf.
Arolwg Gweithlu Addysg Cenedlaethol Cyngor y Gweithlu Addysg
Cyflwynwyd gan
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn nodi gwaith parhaus Llywodraeth Cymru i ddatblygu proffesiwn addysg o ansawdd uchel a denu’r goreuon i addysgu yng Nghymru, gan gynnwys:
a) diwygio a chryfhau Addysg Gychwynnol i Athrawon;
b) cymhelliannau wedi’u targedu ar gyfer graddedigion o ansawdd uchel mewn pynciau â blaenoriaeth ac addysg cyfrwng Cymraeg;
c) ymgyrch recriwtio ddigidol barhaus wedi’i thargedu’n fanwl;
d) sefydlu’r Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol; a
e) sefydlu Bwrdd Cynghori Recriwtio a Chadw Athrawon.
Cyflwynwyd gan
NDM6704 - Cynnig ar gyfer dadl gan Bwyllgor
Wedi’i gyflwyno ar 11/04/2018 | I'w drafod ar 18/04/2018Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, 'Sut y mae Llywodraeth Cymru yn paratoi ar gyfer Brexit?', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Chwefror 2018.
Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru ar 12 Ebrill 2018.