Cynigion i’w trafod ar 17/09/2025

NDM8971 - Cynnig ar gyfer dadl gan Bwyllgor

Wedi’i gyflwyno ar 10/09/2025 | I'w drafod ar 17/09/2025

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau, ‘P-06-1307 Dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i fabwysiadu gwaith cynnal a chadw ystadau tai newydd gan awdurdodau lleol’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Mai 2025.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Medi 2025. 

 

NDM8972 - Cynnig ar gyfer dadl gan Bwyllgor

Wedi’i gyflwyno ar 10/09/2025 | I'w drafod ar 17/09/2025

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: “Cynyddu’r gwres cyn 2160: amser i gyflymu'r gwaith o drechu tlodi tanwydd”, a osodwyd ar 7 Ebrill 2025.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Medi 2025.

 

NDM8973 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 10/09/2025 | I'w drafod ar 17/09/2025

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod cyllideb hydref Llywodraeth y DU i'w chyhoeddi ar 26 Tachwedd 2025.

2. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth Lafur y DU a'r "bartneriaeth mewn pŵer" rhyngddi hi a Llywodraeth Cymru i:

a) darparu unrhyw gyllid canlyniadol i Gymru o brosiect HS2;

b) datganoli Ystâd y Goron yng Nghymru, er bod holl Awdurdodau Lleol Cymru yn cefnogi ei datganoli;

c) disodli'r hen fformiwla Barnett gyda fframwaith ariannu sy’n seiliedig ar anghenion; a

d) darparu gwelliannau diriaethol i bobl Cymru i ymdopi â phwysau costau byw.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i osod gofynion brys ar Lywodraeth Lafur y DU, ac i gyhoeddi'r ohebiaeth, i’r gyllideb gynnwys:

a) gwrthdroi'r cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr;

b) gweithredu mesurau trethiant tecach, gan gynnwys:

(i) treth cyfoeth o 2% ar asedau dros £10 miliwn; a

(ii) unioni cyfraddau treth enillion cyfalaf â threth incwm.

c) ailddosbarthu HS2 fel prosiect i Loegr yn unig, gydag ymrwymiad i ddarparu £4 biliwn o gyllid canlyniadol i Gymru;

d) amserlen glir ar gyfer datganoli Ystâd y Goron i Gymru;

e) ymrwymiad i ddisodli fformiwla Barnett gyda fframwaith ariannu sy'n seiliedig ar anghenion;

f) ymrwymiad i gael gwared ar y cap budd-dal dau blentyn;

g) grantiau cymorth ynni wedi'u targedu i aelwydydd mewn tlodi tanwydd, yn debyg i Gynllun Cymorth Biliau Ynni 2022–23; a

h) cyflwyno gwarant hanfodion i sicrhau bod y rhai sydd ar yr incwm isaf yn gallu fforddio anghenion sylfaenol.

Gwelliannau

NDM8973 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 12/09/2025

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi y bydd cyllideb hydref Llywodraeth y DU yn cael ei chyhoeddi ar 26 Tachwedd 2025.

2. Yn gresynu bod Llywodraeth Lafur y DU a Llywodraeth Lafur Cymru wedi methu â chyflawni ar gyfer pobl Cymru.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i osod gofynion brys ar Lywodraeth Lafur y DU, ac i gyhoeddi'r ohebiaeth, i’r gyllideb gynnwys:

a) gwrthdroi'r cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr;

b) gwrthdroi'r dreth fferm deuluol;

c) ailddosbarthu HS2 fel prosiect i Loegr yn unig, gydag ymrwymiad i ddarparu cyllid canlyniadol i Gymru;

d) ymrwymiad i gychwyn adolygiad o fframwaith cyllidol Cymru; ac

e) agenda torri trethi i gefnogi busnesau a chreu swyddi.

NDM8973 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 12/09/2025

Dileu popeth ar ôl pwynt 1.

 

NDM8974 - Dadl Fer

Wedi’i gyflwyno ar 10/09/2025 | I'w drafod ar 17/09/2025

Cau'r bwlch gwledig: iechyd menywod yng Nghymru.