Cynigion i’w trafod ar 17/04/2024
NDM8534 - Dadl Fer
Wedi’i gyflwyno ar 10/04/2024 | I'w drafod ar 17/04/2024Effaith seilwaith ynni adnewyddadwy ar gymunedau gwledig
Cyflwynwyd gan
NDM8535 - Cynnig ar gyfer dadl gan Bwyllgor
Wedi’i gyflwyno ar 10/04/2024 | I'w drafod ar 17/04/2024Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Ynni niwclear ac economi Cymru - a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Chwefror 2024.
Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Ebrill 2024. At hynny, cyhoeddwyd ymateb Llywodraeth y DU ar 10 Ebrill 2024. (Saesneg yn unig)
Cyflwynwyd gan
NDM8536 - Dadl y Senedd
Wedi’i gyflwyno ar 10/04/2024 | I'w drafod ar 17/04/2024Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru).
Gosodwyd y Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Senedd ar 24 Tachwedd 2023.
Cyflwynwyd gan
NDM8537 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Wedi’i gyflwyno ar 10/04/2024 | I'w drafod ar 17/04/2024Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi ymddiswyddiad Pennaeth Ymchwiliadau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
2. Yn mynegi ei phryder bod didueddrwydd gwleidyddol Swyddfa Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi cael ei beryglu.
3. Yn nodi:
a) bod Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi penodi uwch fargyfreithiwr i ymchwilio i honiadau o ddidueddrwydd gwleidyddol; a
b) mai'r person a benodir yw James Goudie KC.
4. Yn nodi nad yw'n credu bod y penodiad yn briodol o ystyried bod James Goudie KC yn gyn-ymgeisydd seneddol Llafur, yn gyn-gadeirydd ar Gymdeithas Cyfreithwyr Llafur, yn gyn-lefarydd Llafur dros Faterion Cyfreithiol yn Nhŷ'r Arglwyddi, ac yn gyn-arweinydd Cyngor Brent dros y Blaid Lafur.
5. Yn unol â Rheol Sefydlog 17.2, yn cyfarwyddo'r Pwyllgor Cyllid i adolygu ar frys weithrediadau, prosesau ac ymchwiliadau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i sicrhau:
a) bod didueddrwydd a thegwch yn bresennol drwy gydol cyflogaeth y cyn Bennaeth Ymchwiliadau; a
b) y gall y Senedd fod yn hyderus bod y swyddfa yn gallu cynnal ymchwiliadau yn y dyfodol mewn ffordd ddiduedd a theg.
6. Yn galw ar Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i ddatgelu telerau ymadawiad y cyn Bennaeth Ymchwiliadau, er budd craffu cyhoeddus.
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn nodi:
a) ymddiswyddiad Pennaeth Ymchwiliadau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru;
b) bod yr Ombwdsmon wedi penodi uwch fargyfreithiwr i ymchwilio i honiadau;
c) fel ‘awdurdod rhestredig’ dan oruchwyliaeth yr Ombwdsmon, na fyddai’n briodol i Lywodraeth Cymru wneud sylw ar yr ymchwiliad; a
d) bod y Senedd yn disgwyl i’r Ombwdsmon adrodd yn ôl i’r Senedd maes o law ynglŷn â chanlyniad yr ymchwiliad.
Cyflwynwyd gan
NDM8538 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Wedi’i gyflwyno ar 10/04/2024 | I'w drafod ar 17/04/2024Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu nad yw polisïau trafnidiaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru yn addas i'r diben.
2. Yn gresynu'r rhaniad rhwng trafnidiaeth yng ngogledd a de Cymru, gyda £50 miliwn wedi'i ddyrannu i Fetro Gogledd Cymru, a thros £1 biliwn i Fetro De Cymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru:
a) i gynnal adolygiad ar frys o'r profion adeiladu ffyrdd presennol gyda'r bwriad o weithredu'r holl gynlluniau a gafodd eu dileu yn y gorffennol a fydd yn hybu twf economaidd neu'n gwella diogelwch ar y ffyrdd;
b) i wrthdroi ar frys Orchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20mya) (Cymru) 2022 a mabwysiadu dull wedi'i dargedu ar gyfer terfynau cyflymder 20mya yng Nghymru; ac
c) i fuddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus i wneud bysiau a threnau'n fwy cystadleuol â theithio mewn car.
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu:
a) nad yw polisïau trafnidiaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru yn addas i’r diben;
b) bod diffyg cysylltedd rhwng gogledd a de Cymru yn ganlyniad gofidus i’r ffaith bod penderfyniadau dros drafnidiaeth yn cael eu gwneud a'u rheoli gan bobl y tu allan i Gymru;
c) bod diffyg cysylltedd rhwng gogledd a de Cymru yn deillio o fethiannau hanesyddol a chyfredol i fuddsoddi mewn teithiau o fewn Cymru; a
d) bydd datrys materion o fewn rhwydwaith trafnidiaeth Cymru ond yn bosibl drwy ddatganoli'r holl bwerau dros drafnidiaeth i Gymru.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) ailystyried ei phenderfyniad i beidio â lansio her gyfreithiol yn erbyn penderfyniad Llywodraeth y DU i ddynodi HS2 yn brosiect Cymru a Lloegr;
b) gweithredu ar frys i weithredu'r adolygiad parhaus o effaith y terfynau cyflymder newydd, fel y cytunwyd yn flaenorol gan bleidlais y Senedd o blaid NDM8347 fel y’i diwygiwyd, ar 13 Medi 2023;
c) blaenoriaethu cyllid teg i fysiau sy'n gosod cyllid bws ar yr un sail teg â chyllid rheilffyrdd; a
d) gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddatganoli'r holl bwerau dros drafnidiaeth i Gymru.
Cyflwynwyd gan
Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wrando ynghylch gwahanol faterion, gan gynnwys trafnidiaeth a chysylltedd.
2. Yn cefnogi dull Llywodraeth Cymru sy’n cydnabod:
a) gwerth seilwaith trafnidiaeth Cymru, gan gynnwys ffyrdd, o ran ein heconomi a’n cymdeithas; a
b) y gall Llywodraeth Cymru wella’r ffordd y mae’n dylunio ac yn adeiladu seilwaith ffyrdd newydd, a chynnal yn well rwydwaith ffyrdd presennol Cymru.
3. Yn croesawu’r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr angen i fireinio’r gwaith o weithredu terfynau cyflymder 20mya yng Nghymru, gan gynnwys ystyried y canllawiau ar ddosbarthiad ffyrdd, newid terfynau cyflymder ar rai ffyrdd a pharhau i drafod â chymunedau.