Cynigion i’w trafod ar 16/11/2022

NDM8123 - Cynnig ar gyfer dadl gan Bwyllgor

Wedi’i gyflwyno ar 09/11/2022 | I'w drafod ar 16/11/2022

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: ‘Cysylltedd digidol – band eang’, a osodwyd ar 1 Awst 2022.

Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Tachwedd 2022.

 

NDM8124 - Dadl y Senedd

Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 09/11/2022 | I'w drafod ar 16/11/2022

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16:

Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2023-24, fel y pennir yn Nhabl 1 o Gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2023-24, a osodwyd gerbron y Senedd ar 9 Tachwedd 2022, a’i bod yn cael ei hymgorffori yn y Cynnig Cyllidebol Blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii).

Cyflwynwyd gan

 

NDM8125 - Dadl Fer

Wedi’i gyflwyno ar 09/11/2022 | I'w drafod ar 16/11/2022

Rasio ceffylau: ased economaidd ac ased chwaraeon i Gymru

 

NDM8126 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 09/11/2022 | I'w drafod ar 16/11/2022

 Cynnig bod y Senedd:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu mecanwaith ariannu addas a chanllawiau clir i awdurdodau lleol i sicrhau bod yna ddarpariaeth deg o doiledau Changing Places ym mhob sir yng Nghymru.

 

NDM8127 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 09/11/2022 | I'w drafod ar 16/11/2022

Cynnig bod y Senedd:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r holl bleidiau gwleidyddol yn Senedd Cymru i hwyluso deddfiad prydlon sy'n ymgorffori adrannau 116 i 125 o Ddeddf Diogelwch Adeiladu 2022 i gyfraith Cymru i gryfhau hawliau trigolion yng Nghymru.

 

NDM8129 - Cynnig ar gyfer dadl gan Bwyllgor

Wedi’i gyflwyno ar 09/11/2022 | I'w drafod ar 16/11/2022

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Pwysau costau byw a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Gorffennaf 2022.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Medi 2022.