Cynigion i’w trafod ar 16/07/2025

NDM8960 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 09/07/2025 | I'w drafod ar 16/07/2025

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd amaethyddiaeth i economi, diwylliant, iaith, amgylchedd a chymunedau gwledig Cymru.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal pleidlais derfynol, rwymol yn y Senedd ar ei chynllun ffermio cynaliadwy arfaethedig, cyn ei weithredu, er mwyn sicrhau ei gyfreithlondeb democrataidd, a hyder y sector amaethyddol.

Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy Arfaethiedig

Gwelliannau

NDM8960 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 11/07/2025

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn croesawu’r cynnig i gyflwyno’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy; ac

Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru’n dod ag Offeryn Statudol gerbron sy’n cynnwys y prif ddarpariaethau fydd yn sail i’r Cynllun.

 

NDM8961 - Cynnig ar gyfer dadl gan Bwyllgor

Wedi’i gyflwyno ar 09/07/2025 | I'w drafod ar 16/07/2025

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi’r gwaith ymgysylltu a wnaed gan y Pwyllgor Cyllid yn ymwneud â blaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer cyllideb 2026-27, ac yn nodi ymhellach y sylwadau a wnaed gan gyfranogwyr yn y digwyddiadau a ganlyn:

a) digwyddiad i randdeiliaid yn y Ganolfan Rheolaeth, Prifysgol Bangor;

b) grwpiau ffocws ymgysylltu â dinasyddion; ac

c) digwyddiadau ymgysylltu gyda phobl Ifanc, gan gynnwys gweithdy gydag aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27: Adroddiad Cryno ar Ymgysylltu y Pwyllgor Cyllid

 

NDM8962 - Cynnig ar gyfer dadl gan Bwyllgor

Wedi’i gyflwyno ar 09/07/2025 | I'w drafod ar 16/07/2025

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad covid-19 Cymru, sef ‘Adroddiad ar y bylchau a nodwyd ym mharodrwydd ac ymateb Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill Cymru yn ystod pandemig covid-19 y dylid eu harchwilio ymhellach: Modiwl 1 Ymchwiliad covid-19 y DU’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Mawrth 2025.