Cynigion i’w trafod ar 15/07/2025
NDM8955 - Dadl y Llywodraeth
Wedi’i gyflwyno ar 08/07/2025 | I'w drafod ar 15/07/2025Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cydsyniad Seilwaith (Ffioedd) (Cymru) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mehefin 2025.
Cyflwynwyd gan
NDM8956 - Dadl y Llywodraeth
Wedi’i gyflwyno ar 08/07/2025 | I'w drafod ar 15/07/2025Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cydsyniad Seilwaith (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mehefin 2025.
Cyflwynwyd gan
NDM8957 - Dadl y Llywodraeth
Wedi’i gyflwyno ar 08/07/2025 | I'w drafod ar 15/07/2025Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cynllun Cymorth Ariannol Etholiadau Cymreig (Ymgeiswyr Anabl) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Mehefin 2025.
Cyflwynwyd gan
NDM8958 - Dadl y Llywodraeth
Wedi’i gyflwyno ar 08/07/2025 | I'w drafod ar 15/07/2025Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Hawliau Cyflogaeth i’r graddau y maent yn rhoi sylw i faterion datganoledig.
Troednodyn:
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Rhagfyr 2024, 19 Rhagfyr 2024, 1 Ebrill 2025 a 8 Gorffennaf 2025, yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Gellir gweld copi o’r Bil ar wefan Senedd y DU:
Cyflwynwyd gan
NDM8959 - Dadl y Llywodraeth
Wedi’i gyflwyno ar 08/07/2025 | I'w drafod ar 15/07/2025Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 11.21 (ii):
Yn nodi:
a) y cynnydd sydd wedi’i wneud ar gyflawni blaenoriaethau’r Llywodraeth:
i. gwell iechyd;
ii. mwy o swyddi;
iii. gwell trafnidiaeth; a
iv. mwy o gartrefi;
b) y cynnydd ar y Rhaglen Ddeddfwriaethol.
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Yn is-bwynt a), cyn 'cynnydd', ychwanegu 'diffyg'.
Cyflwynwyd gan
Yn is-bwynt b), cyn 'cynnydd', ychwanegu 'diffyg'
Cyflwynwyd gan
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi methu â chyflawni ei blaenoriaethau drwy:
a) methu targedau rhestrau aros dwy flynedd olynol y GIG;
b) gadael Cymru ar waelod y tablau cyflogau cyfartalog gros;
c) methu â sicrhau'r £4bn o arian canlyniadol rheilffordd HS2;
d) peidio â gwrando ar rybuddion na fydd yn cyrraedd y targed cartrefi cymdeithasol; ac
e) gwneud tro pedol ar ymrwymiadau a wnaed yn ei rhaglen ddeddfwriaethol.
Cyflwynwyd gan
NDM8963 - Dadl y Llywodraeth
Wedi’i gyflwyno ar 14/07/2025 | I'w drafod ar 15/07/2025Cynnig bod y Senedd yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:
Yn cymeradwyo'r Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru).
Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru), fel y'i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 3