Cynigion a gyflwynwyd ar 14/07/2025
NNDM8964 - Dadl y Llywodraeth
Wedi’i gyflwyno ar 14/07/2025Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Dyrannu Taia Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Gorffennaf 2025.
Cyflwynwyd gan
NNDM8965 - Dadl y Llywodraeth
Wedi’i gyflwyno ar 14/07/2025Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal Rheol Sefydlog 27.7, Rheol Sefydlog 12.20(i) a'r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y datganiad a'r cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM8964 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ar Dydd Mawrth 15 Gorffennaf.